Lansio Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus

Disgrifiad

Cynhaliwyd lansiad cyfrwng Cymraeg Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym mhabell Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023. Rhoddodd Joshua Andrews a minnau gyflwyniad i'r Ganolfan fel ei chyd-gyfarwyddwyr. Cafwyd cyfraniadau diddorol iawn gan Emilia Johnson, Daniel Latham, Modlen Lynch, a Natasha Roberts, ynghyd a sgwrs ddifyr iawn gyda Kristoffer Hughes, Prif Dderwydd Urdd Ynys Mon. Cawsom gyhoeddi hefyd mai Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, fydd Cymrawd Anrhydeddus cyntaf y Ganolfan.
Cyfnod6 Awst 2023
Teitl y digwyddiadEisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023
Math o ddigwyddiadArall
LleoliadGwynedd, Y Deyrnas UnedigDangos ar fap
Graddau amlygrwyddCenedlaethol