!!Research output per year
!!Research output per year
Dr
Derbyn Myfyrwyr PhD
Prosiectau PhD
Cysylltwch i drafod cynlluniau PhD. Mae meysydd posibl yn cynnwys
Theori lenyddol yng Nghymru ac yn Gymraeg;
Athroniaeth a llenyddiaeth;
Llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau cymharol;
Ecofeirniadaeth, ffeministiaeth, rhywedd a syniadaethau radicalaidd eraill.
Please contact me to discuss possibilities of PhD supervision. Possible fields include
Literary theory in Wales and in Welsh;
Philosophical approaches to Welsh literature;
Welsh literature in a comparative context;
Ecocriticism, feminism, gender, and other radical ideologies.
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Addysg a Chyflogaeth
Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (Bangor), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.
Ymchwil
Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu. Gweler yn enwedig fy monograff, Darogan (GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl yn Ysgrifau Beirniadol ar yr olaf.
Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl yn Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.
Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus
Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.
Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.
Cyfieithu Llenyddol
Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.
Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).
Addysgu
Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
+44 (0)1248 382243
Addysgu BA
Blwyddyn 0
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2 a 3
Addysgu MA
Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)
Goruchwylio PhD
Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:
Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol.
Arholi PhD
Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.
Arholi Allanol
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).
Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth).
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.
Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig agweddau megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.
Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.
Ol-Raddedigol, PhD, Harvard University
Medi 2005 → Mai 2011
Dyddiad Dyfarnu: 26 Mai 2011
Ol-Raddedigol, MA, Harvard University
Medi 2005 → Mai 2007
Dyddiad Dyfarnu: 5 Mai 2007
Ol-Raddedigol, MPhil, Caerdydd
Medi 1997 → Mai 2000
Dyddiad Dyfarnu: 1 Mai 2000
Israddegigol, BA, Leeds University
Medi 1993 → Mai 1996
Dyddiad Dyfarnu: 1 Mai 1996
Cyswllt, Harvard University
Ion 2021 → Meh 2022
Athro ar Ymweliad, Harvard University
Medi 2020 → Rhag 2020
Darlithydd (Cymraeg), NUI Galway, Ireland
2003 → 2005
Darlithydd (Cymraeg), Prifysgol Gatholig Lublin
1998 → 2003
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
Jones, A. L. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Jones, A. L. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Jones, A. L. (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
Radulescu, R. (Trefnydd), Robinson, S. (Cyfrannwr), Lober, C. (Cyfrannwr), Simpson, E. (Cyfrannwr), Lloyd Morgan, C. (Cyfrannwr), Jones, N. (Cyfrannwr), Jones, A. L. (Cyfrannwr), Brownson, G. (Cyfrannwr) & Hayes, M. (Cyfrannwr)
Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau
Jones, A. L. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar