Proffil personol
Manylion Cyswllt
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Bangor
LL57 2DG
+44 (0)1248 382097
Teaching and Supervision (cy)
Modiwlau israddedig
- Theatr Fodern Ewrop
- Rhyddid y Nofel
- Gweithdy Rhyddiaith
- Y Theatr Gymraeg Fodern
- Traethawd Estynedig
MA
MA yn y Gymraeg
MA mewn Ysgrifennu Creadigol
PhD
Wedi cyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:
- 2008 Judith Kaufmann (Astudiaethau Cyfieithu)
- 2010 Non Meleri Hughes (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2011 Sian Owen (Ysgrifennu Creadigol)
- 2011 Rhodri Llyr Evans (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2012 Dylan Rees (Ysgrifennu Creadigol)
- 2013 Elin Gwyn (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2014 Eiddwen Jones (Ysgrifennu Creadigol)
- 2015 Meg Elis (Ysgrifennu Creadigol)
- 2019 Samuel Jones (Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Cyfieithu)
- 2019 Cefin Roberts (Ysgrifennu Creadigol)
- 2021 Elis Dafydd (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2021 Ruth Richards (Llenyddiaeth Gymraeg a ffotograffiaeth)
Wedi cyd-gyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:
- 2008 Eleri Hedd James (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2009 Geraldine Lublin (Llenyddiaeth Gymharol)
- 2014 Adam Pearce (Astudiaethau Cyfieithu)
- 2016 Sian Northey (Ysgrifennu Creadigol)
Ar hyn o bryd yn cyfarwyddo traethodau PhD y myfyrwyr isod:
- Angharad French (Ysgrifennu Creadigol)
- Rosie Dymond (Llenyddiaeth Gymraeg)
Diddordebau Ymchwil
- Rhyddiaith Gymraeg
- Ysgrifennu creadigol
- Llenyddiaeth gymharol
- Y Dadeni
- Astudiaethau Cyfieithu
Trosolwg
Mae Angharad Price yn academydd ac awdur sydd wedi cyhoeddi'n helaeth ym maes llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern a'r cyfnod modern cynnar, yn aml mewn cyswllt a chyfandir Ewrop.
A hithau wedi graddio mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (lle cwblhaodd hefyd draethawd DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd), mae ei hymchwil academaidd yn aml yn pontio rhwng llenyddiaeth y Gymraeg a llenyddiaethau Ewropeaidd eraill. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o nofelau, dramau a chyfrolau o ysgrifau, ac wedi cyfarwyddo llu o draethodau PhD mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau cyfieithu. Mae ei diddordebau ymchwil yn y meysydd hyn yn rhan annatod o'i gwaith dysgu a darlithio ar lefelau BA ac MA.
Penodwyd hi'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn y flwyddyn 2006 ac fe'i dyrchafwyd yn Athro yno yn 2014.
Ymhlith ei phrif gyhoeddiadau ymchwil mae Rhwng Gwyn a Du (2002), sef astudiaeth ar ryddiaith Gymraeg diwedd yr ugeinfed ganrif a Ffarwél i Freiburg (2013), astudiaeth ar waith cynnar T. H. Parry-Williams a enillodd Wobr Syr Ellis Griffith yn 2014 ac a osodwyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yr un flwyddyn. Ei chyfrol academaidd ddiweddaraf yw Gororion: Llen Cymru yng Nghyfandir Ewrop (2023), casgliad o ysgrifau sy'n edrych ar gysylltiadau llenyddol rhwng Cymru a'r cyfandir. Hi yw golygydd Chwileniwm: Llenyddiaeth a Thechnoleg (2002), a chyd-olygodd Translation Studies: Special Issue Wales gyda Helena Miguelez-Carballeira a Judith Kaufmann yn 2016. Bu'n aelod o fwrdd golygyddol O'r Pedwar Gwynt, Ysgrifau Beirniadol a Thrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Etholwyd hi'n gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2015.
Yn rhinwedd ei gwaith fel awdur creadigol, enillodd ei nofel gyntaf, O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, yn ogystal a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2003. Mae'r nofel wedi'i chyfieithu i chwe iaith. Cyrhaeddodd dwy nofel nesaf Angharad, Caersaint (2010) a Nelan a Bo (2024), yn ogystal a'i chyfrol o ysgrifau, Ymbapuroli (2021), i gyd Restr Fer gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd yn awdur dwy ddrama, sef Nansi (2016), enillydd drama Gymraeg orau Gwobrau Theatr Cymru yn 2017, a Congrinero a fu ar daith ledled Cymru ddechrau 2025.
Yn 2014 dyfarnwyd iddi Fedal Glyndwr am gyfraniad neilltuol i'r celfyddydau yng Nghymru.
Addysg / Cymwysterau academaidd
DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd, Oxford University
1995 → 1998
Dyddiad Dyfarnu: 18 Rhag 1998
BA mewn Ieithoedd Modern, Oxford University
1990 → 1994
Dyddiad Dyfarnu: 25 Meh 1994
Safleoedd allanol
Cymrawd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
2014 → …
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
-
Slate Gods: tr. from Welsh 'Y Crawiau a'r Beddau'
Price, A., 2026, A New Welsh Tapestry: Six Short Stories by Contemporary Welsh Women Writers. Beech, N. (gol.). Kolkata: Sampark Publishing House, t. 39-47 8 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
-
Nelan a Bo
Price, A., 1 Tach 2024, Y Lolfa. 280 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
-
Y Crawiau a'r Beddau
Price, A., 1 Medi 2024, Cofion . Jones, R. (gol.). Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, t. 13-16 4 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
-
'A. G. van Hamel's correspondence with Henry Parry-Williams'
Price, A., Hyd 2023, A Man of Two Worlds: A. G. van Hamel, Celticist and Germanist. Utrecht: Stichting A. G. van Hamel, Utrecht, t. 35-38 4 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
-
Gororion: Llen Cymru yng Nghyfandir Ewrop
Price, A., 13 Rhag 2023, 1 gol. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. 234 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
Effeithiau
-
Extending the Reach of Welsh-language Creative Writing
Wiliams, G. (Cyfranogwr), Walford Davies, J. (Cyfranogwr), Price, A. (Cyfranogwr) & Hunter, T. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol
-
In the Gallery of the Imagination: The Welsh Bible as a Cultural Phenomenon - Leverhulme Research Fellowship
Price, A. (PY)
1/09/26 → 15/09/28
Project: Ymchwil
-
Gweithgareddau
-
Trefnu a chadeirio Darlith Goffa Mary Silyn
Price, A. (Trefnydd)
25 Maw 2026Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
Cyfnewid Storiau: Dathlu Cyfieithu Llenyddol gan Gyfnewidfa Len Cymru: Cyflwyniad ar India, Cadeirio lawnsiad yn Palas Print a chynnal Gweithdy Cyfieithu Llenyddol
Price, A. (Siaradwr)
20 Maw 2026Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd
-
Cadeirio Lawnsiad 'Cerddi' R. Williams Parry a holi Dr Elis Dafydd
Price, A. (Siaradwr)
12 Maw 2026Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Sgwrs am nelan a Bo i Gymdeithas Lenyddol Bro Idris, Dolgellau
Price, A. (Siaradwr)
26 Chwef 2026Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Sgwrs ar TH Parry-Williams i Gymdeithas Lenyddol Capel y Traeth, Cricieth
Price, A. (Siaradwr)
17 Chwef 2026Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Gwobrau
-
Dramodydd Cymraeg Gorau / Best Playwright (Welsh language) Wales Theatre Awards
Price, A. (Derbynydd), 2017
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
-
-
Llyfr y Flwyddyn / Wales Book of the Year
Price, A. (Derbynydd), 2003
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
-
-
Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn / Wales Book of the Year Shortlist
Price, A. (Derbynydd), 2021
Gwobr: Anrhydedd genedlaethol/ryngwladol
Toriadau
-
-
Cyfrannu at raglen 'Stori'r Iaith' (Lisa Jen) S4C, enillydd gwobr Bafta
10/05/22
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Ymchwil