Llun o Dyfrig Jones

Dyfrig Jones

Dr

Derbyn Myfyrwyr PhD

Prosiectau PhD

Media Politics, Media Policy, Public Media, Public Service Broadcasting, American Media History, American Media Policy, History of Communications Studies.

20092024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Trosolwg

Penodwyd Dyfrig Jones yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn Medi 2008. Cyn ymuno a Phrifysgol Bangor, bu'n gweithio fel cynhyrchydd-gyfarwyddwr teledu, gan arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol. Roedd hefyd yn olygydd ar gylchgrawn materion cyfoes Barn rhwng 2006 a 2009.

Mae gwaith dysgu Dyfrig yn canolbwyntio ar ffilmiau dogfen, gan gynnig modiwlau ar sut i'w cynhyrchu a'u dadansoddi. Mae hefyd yn cynnig modiwlau ar hanes y cyfryngau a pholisi'r cyfryngau.

Prif ddiddordeb ymchwil Dyfrig yw datblygiad hanesyddol darlledu cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar Unol Daleithiau America yn ystod canol yr Ugeinfed Ganrif. 

Rhwng 2009 a 2013 roedd Dyfrig yn aelod o Awdurdod S4C, sef y corff sydd yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth teledu Cymraeg. Yn ystod 2010 bu'n cadeirio Fforwm Cyfryngau Newydd S4C, ac yn 2012-2013 roedd yn un o gyfarwyddwyr S4C Masnachol. Rhwng 2015 a 2019 roedd   Dyfrig Jones yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. A bu'n aelod o Gyngor Gwynedd rhwng 2008 a 2017, gan wasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol rhwng 2014 a 2016.

 

Dyfrig yw Cadeirydd Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol wedi ei lleoli yn Nyffryn Ogwen sydd yn gweithio i wella economi ac amgylchedd yr ardal. Rhwng 2013 a 2023 bu'n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Neuadd Ogwen, sef canolfan gelfyddydol gymunedol ym Methesda. 

Safleoedd allanol

Cadeirydd, Partneriaeth Ogwen

13 Rhag 2023 → …

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Dyfrig Jones ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg