Proffil personol
Trosolwg
Cyflwyniad
Yn enedigol o Ynys Môn, deuthum i Brifysgol Bangor yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblheais MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd â phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, dan nawdd yr AHRC. Yn dilyn hynny, fe’m penodwyd yn Ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd.
Ymchwil Academaidd
Roedd fy ymchwil doethurol yn archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i fater caethwasiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil ar ffurf monograff yn 2022: ‘Mae’r Beibl o’n tu’: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru).
Fel y dengys testun fy PhD, mae fy niddordebau academaidd yn eang ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys: astudiaethau Beiblaidd; derbyniad y Beibl mewn hanes a’i rôl mewn materion cyfoes; crefydd, llenyddiaeth a chymdeithas; hanes caethwasiaeth a moeseg; Iddewiaeth a Christnogaeth, a’u deialog ryng-grefyddol; Siciaeth a Chonffiwsiaeth; Ecoleg a Chrefydd; Athroniaeth Hynafol; Problem Drygioni; Anghydffurfiaeth Gymreig a’r Cymry yn America; diwylliant print y bedwaredd ganrif ar bymtheg; a rôl crefydd yn cynnal hunaniaeth ethnig a chenedlaetholgar mewn cymunedau gwasgaredig.
Rydw i'n parhau i archwilio caethwasiaeth a chrefydd, ac yn ymchwilio i agweddau penodol ar Seioniaeth fodern ar hyn o bryd.
O’r herwydd, mae’r modiwlau rydw i’n eu haddysgu’n amrywiol ac yn cynnwys moeseg, Iddewiaeth a Christnogaeth, a rôl crefydd mewn materion ecolegol cyfoes.
Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru
Ym mis Hydref 2022, fe'm penodwyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru gyda Dr Joshua Andrews. Bwriad y Ganolfan ydi gofalu bod Addysg Grefyddol, Moeseg, Athroniaeth a Gwerthoedd fel meysydd pwnc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cael eu diogelu. Byddem yn cydweithio ag athrawon, grwpiau CYSAG, mudiad RE Hubs UK, a mudiadau ffydd er mwyn datblygu'r addysg sy'n bod a dangos perthnasedd y pwnc eithriadol bwysig ac amserol yma i'n cymdeithas amlgrefyddol, amlddiwylliannol ac amlsyniadaethol.
Gwaith Creadigol
Rydw i hefyd yn ysgrifennu’n greadigol ac ym mis Hydref 2018, cyhoeddais nofel yn darlunio profiadau’r Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2023, cyhoeddir nofel gennyf, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn), sy’n archwilio’r modd y darlunnir gwrachod yn ein cymdeithas heddiw.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, bûm yn hynod ffodus o ennill y Fedal Ddrama am fy nrama Adar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020; ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021, deuthum yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama am fy nrama, Cadi Ffan a Jan, a oedd yn archwilio ystrydebau gender yn y Gymru gyfoes.
Yng ngwanwyn 2022, aeth drama roeddwn wedi’i sgriptio, Ynys Alys (Cwmni'r Frân Wen), ar daith o amgylch Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cyfrol a olygais, sef y flodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg gyntaf sy'n cynnwys gwaith gonest a grymus 42 llenor gwahanol: Curiadau (Barddas).
Yn 2025, dyfarnwyd gwobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg i fy nghyfrol gyntaf i blant, Llanddafad (Y Lolfa, 2024).
Manylion Cyswllt
Diddordebau Ymchwil
- Y Beibl a chaethwasiaeth.
- Caethwasiaeth a chrefydd.
- Anghydffurfiaeth Gymreig a diwylliant print crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
- Iddewiaeth a Christnogaeth a’u deialog ryng-grefyddol.
- Seioniaeth, Iddewiaeth, a Christnogaeth.
- Llenyddiaeth a Chrefydd.
- Paganiaeth.
Teaching and Supervision (cy)
- Moeseg: Agweddau Crefyddol
- Cyflwyniad i Gristnogaeth
- Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol
- Gwrth-Semitiaeth
- Natur a Chrefydd y Gorllewin
- Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb
- Yr Holocost: Ymatebion Crefyddol ac Athronyddol
- Crefydd yng Nghymru: O Baganiaeth i Jediiaeth
- Iddewiaeth yn y Byd Modern
- Problem Drygioni
- Y Gaethfasnach Drawsatlantig
- Athroniaeth Crefydd yn yr 20fed Ganrif
- Myth a Moeseg
- Astudiaeth Annibynnol
- Traethawd Hir
Cyfarwyddo MA/MRes
- Yn cyfarwyddo prosiectau MRes ym meysydd astudiaethau crefyddol ac athroniaeth.
Cyfarwyddo PhD
- Yn cyfarwyddo prosiectau'n cynnwys rhai am Heraclitus, a llenyddiaeth ffantasi.
- Yn fodlon cyfarwyddo prosiectau PhD ym meysydd astudiaethau crefyddol, llenyddiaeth a chrefydd, a chaethwasiaeth, crefydd a chymdeithas.
Arall
Dyletswyddau Gweinyddol
- Tiwtor Personol
- Swyddog Materion Cymraeg Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Swyddog Cyfathrebu Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Swyddog Cenhadaeth Ddinesig Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Cydnabyddiaethau/Llwyddiannau
- Ennill gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023 am fy nghyfrol Cylchu Cymru.
- Ennill Grant gan Gymdeithas Awduron Prydain i lunio cyfrol o lên feicro (2021).
- Ennill Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2019.
- Ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel (2017).
- Ennill Ysgoloriaeth Ieithoedd Celtaidd AHRC i gwblhau ymchwil y PhD (2014).
- Ennill Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (2013).
- Ennill Ysgoloriaeth Mynediad i Radd Meistr (ATM) ar gyfer y cwrs MA (2012).
- Ennill Gwobr Dr John Robert Jones gan Brifysgol Bangor am fod yn un o ‘fyfyrwyr gorau’r flwyddyn’ (2012).
- Ennill Gwobr Syr John Morris-Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau fy arholiadau gradd BA (2012).
- Ennill Gwobr Robert Richards gan Brifysgol Bangor am ansawdd fy nhraethawd hir israddedig am bwnc yn ymwneud â’r Gyfraith, Astudiaethau Crefyddol neu Hanes (2012).
- Ennill Gwobr Thomas L. Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau arholiadau ail flwyddyn fy ngradd (2011).
- Ennill Gwobr R. T. Robinson gan Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor, am safon fy ngwaith yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd (2010).
Aelodaeth
- Cymrawd Cydymaith Academi Addysg Uwch.
- Aelod o Gyngor Cristnogion ac Iddewon (CCJ).
- Aelod o Senedd Prifysgol Bangor.
Golygyddol
- Cyd-olygydd Ysgrifau Beirniadol gyda Dr Elis Dafydd (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).
Grantiau a Projectau
Allweddeiriau
- BL Religion
- BM Judaism
- BR Christianity
- BS The Bible
- BX Christian Denominations
- BT Doctrinal Theology
- PN0441 Literary History
- PN0080 Criticism
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
-
Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV
Dafydd, E. (Golygydd) & Evans-Jones, G. (Golygydd), 1 Chwef 2025, Y Lolfa.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
-
Adroddiad ar ddarpariaeth addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn Ysgolion yng Nghymru
Huskinson, L., Evans-Jones, G. (Cyfrannwr) & Andrews, J. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 24 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall
Mynediad agoredFfeil4 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Report on the teaching provision of Religion, Values and Ethics in Schools in Wales
Huskinson, L., Andrews, J. (Cyfrannwr) & Evans-Jones, G. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 23 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall
Mynediad agoredFfeil18 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
The ‘descendant of Ham’: a critical analysis of the biography of John Ystumllyn by Alltud Eifion
Evans-Jones, G., 1 Tach 2024, Globalising Welsh Studies : Decolonising history, heritage, society and culture. University of Wales Press, t. 41 69 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agored -
Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+
Evans-Jones, G., 4 Awst 2023, 1af gol. Llandysul: Cyhoeddiadau Barddas. 136 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
Effeithiau
-
Cartoon depiction of our research/teaching project Re-Connect in Welsh magazine, 'Golwg' ('Look'/'Perception') . Includes brief article
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Evans-Jones, G. (Cyfranogwr) & Andrews, J. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
-
News article in North Wales Chronicle
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Andrews, J. (Cyfranogwr) & Evans-Jones, G. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
-
News article on BBC Cymru Fyw website
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Evans-Jones, G. (Cyfranogwr) & Andrews, J. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
-
Newyddion 9 S4C / 9 o'clock News on S4C
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Evans-Jones, G. (Cyfranogwr) & Andrews, J. (Cyfranogwr)
Effaith: Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus, Diwilliannol
-
The Western Mail: educational supplement front page, newspaper article
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Andrews, J. (Cyfranogwr) & Evans-Jones, G. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Cymdeithasol
Gweithgareddau
-
Hanes cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru c. 1925-2025: Cwrs Cymunedol
Wiliam, M. (Cyfrannwr), Evans-Jones, G. (Cyfrannwr) & Tudur, M. (Cyfrannwr)
21 Meh 2025Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus
-
Pem ein bod yn caru cŵn, yn bwyta moch ac yn gwisgo gwartheg: anifeiliaid a grym llyfrau.
Wiliam, M. (Siaradwr) & Evans-Jones, G. (Siaradwr)
30 Medi 2024Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar
-
Cadeirio lansiad y gyfrol Curiadau gan Gareth Evans Jones (gol.)
Williams, M. (Siaradwr) & Evans-Jones, G. (Prif siaradwr)
10 Tach 2023Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Darlleniad yn lansiad Y Cylch gan Gareth Evans Jones
Williams, M. (Siaradwr) & Evans-Jones, G. (Prif siaradwr)
31 Hyd 2023Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
John Elias a Chymdeithas
Evans-Jones, G. (Siaradwr)
18 Medi 2023Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Gwobrau
-
Gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023
Evans-Jones, G. (Derbynydd), 13 Gorff 2023
Gwobr: Anrhydedd genedlaethol/ryngwladol
-
Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021
Evans-Jones, G. (Derbynydd), 2 Awst 2021
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
-
Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
Evans-Jones, G. (Derbynydd), 8 Awst 2019
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
Toriadau
-
Israel, Seioniaeth, Palesteina a Gwleidyddiaeth
1/08/25
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol
-
Sgwrs gyda John Roberts ar raglen Bwrw Golwg (BBC Radio Cymru)
17/09/23
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol
-
Sgwrs gyda Catrin Jones am Ieuan Gwynedd ar raglen Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
7/09/23
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol
-
Sgwrs gydag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru
29/08/23
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol
-
Sgwrs am Simone Weil ar raglen Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
24/08/23
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol