Gareth Roberts

Professor

Ymlyniadau blaenorol
20002024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Trosolwg

Roedd Gareth yn Brifathro Coleg Normal Bangor (1994-96), yna yn Ddirprwy Is-Ganghellor (1996-2005) ac yn Athro Addysg (2000-2005) ym Mhrifysgol Bangor ac wedyn yn Athro Emeritws yn y brifysgol. Mae’n arbenigo mewn addysg mathemateg gyda phwyslais ar addysg ddwyieithog.

Diddordebau Ymchwil

Graddiodd Gareth mewn Mathemateg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac enillodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Nottingham trwy gymhwyso Damcaniaeth y Cwantwm i astudio mathemateg moleciwlau aromatig. Enillodd Gymrodoriaeth Prifysgol Cymru yn Adran Mathemateg Gymhwysol CPGC ac yna fe’i gyflogwyd gan goleg Politechnig Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) a’r Brifysgol Agored. Magodd ddiddordeb mewn addysg mathemateg ac enillodd radd MAdd gan Brifysgol Caerdydd a’i benodi gan Gyngor Sir Gwynedd fel Ymgynghorydd Mathemateg cyn symud i Goleg Normal Bangor.

Mae Gareth wedi cyfrannu’n helaeth i boblogeiddio mathemateg mewn erthyglau, llyfrau a’r cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Yn 2010 enillodd Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniadau i fathemateg. Yn Eisteddfod Wrecsam 2011 fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd dan yr enw ‘Gareth Ffowc’. Fe’i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2016 a’i dderbyn yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2018. I gydnabod ei ragoriaeth gyhoeddus fe’i dderbyniwyd yn Ddoethur er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Bangor yn 2023.

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Gareth Roberts ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu