!!Research output per year
!!Research output per year
Dr
Derbyn Myfyrwyr PhD
Prosiectau PhD
Composition / Cyfansoddi.
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Safle: Pennaeth Cyfansoddi
E-bost: [email protected]
Ffôn: +44 (0) 1248 382173
Lleoliad: Ysgol Cerddoriaeth
Astudiodd Guto Pryderi Puw Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda'r cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis, gan ennill PhD mewn Cyfansoddi yn 2002. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn 2006 gan ganolbwynio yn bennaf ar Gyfansoddi, Cerddorfaeth a Cherddoriaeth Gyfoes. Fe'i penodwyd fel Pennaeth Cyfansoddi yn 2015.
Daeth Puw i lygad y cyhoedd gyntaf wedi ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1995 ac am yr ail dro yn 1997. Cafodd ei gerddoriaeth ei berfformio mewn gwyliau cerdd ar hyd a lled y DU ac wedi eu darlledu'n gyson ar radio a theledu. Yn Chwefror 2006 fe'i penodwyd fel y Cyfansoddwr Preswyl cyntaf i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda'r Concerto i'r Obo yn ennill categori Gwobr y Gwrandawyr yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydeinig 2007 a derbyniodd ‘…onyt agoraf y drws…’ premiere yn y Proms yn yr un flwyddyn, gan yn ddiweddrach ei ddewis fel yr ail ddarn cerddorfaol gorau gan gyfansoddwr Cymreig yng nghylchgrawn Gramophone yn 2015.
Derbyniodd ei gomisiwn opera cyntaf, Y Tŵr, a seiliwyd ar y ddrama gan Gwenlyn Parry ac i libretto gan Gwyneth Glyn, daith lwyddianus gan Theatr Gerdd Cymru yn y DU yn 2017.
Yn 2013 derbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei 'gyfraniad arwyddocaol i gerddoriaeth Cymru.' Yn ogystal, rhyddhaodd Signum Records ddetholiad o'i gyfansoddiadau cerddorfaol diweddar ar y CD Reservoirs yn 2014. Ers cryn amser bu Puw yn weithgar yn hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng Ngogledd Cymru drwy ei gysylltiad gyda Gŵyl Gerdd Bangor, yr hwn y bu yn aelod gwreiddiol ac yn Gyfarwyddwr Artistig ers ei sefydlu yn 2000.
Cyfansoddi.
Cerddorfaeth.
Cerddoriaeth John Metcalf.
Gyorgy Ligeti.
Opera a theatr gerdd gyfoes.
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyfansoddiad
Lewis, A. (Cyfrannwr) & Puw, G. (Cyflwynydd)
Gweithgaredd: Arall › Mathau o Fusnes a Chymuned - Darparu/trefnu cyrsiau DPP ar gyfer pobl allanol (mewn da)