Proffil personol
Trosolwg
Yn enedigol o Ynys Môn, cefais fy addysg gynnar yng Nghymru cyn mynd i brifysgol yn Lloegr. Roedd fy nghwrs gradd mewn Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Ngholeg Queens’, Prifysgol Caergrawnt, lle yr arbenigais mewn iaith a llên Cymraeg Canol ac hen ieithoedd a llên Germanaidd, yn enwedig Hen Saesneg. Yn ogystal, cwblheais MPhil yn y maes hwn yn 2004, gan ysgrifennu fy nhraethawd estynedig ar semanteg Hen Saesneg (ar wahanol eiriau am geffylau). Ar ôl gweithio am gyfnod byr fel cynorthwyydd ymchwil yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, dechreuais PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mangor yn 2005, gyda’r Athro Margaret Deuchar fel fy nghoruchwyliwr. Graddiais yn 2010. Ffocws fy ymchwil PhD oedd dwyeithrwydd a chyfnewid côd, sef y ffenomen o fewnosod geiriau o un iaith i mewn i frawddeg o iaith arall - rhywbeth hynod gyffredin mewn Cymraeg llafar anffurfiol.
Rydw i wedi bod yn aelod o staff Ieithyddiaeth Bangor ers 2009, yn gyntaf fel Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg, yna o fis Medi 2012 fel Darlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymraeg, yn cael fy ariannu’n bennaf yn y ddwy swydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn 2016 cefais fy nyrchafu i Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd). Ar hyn o bryd rydw i'n aelod o staff Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd o fewn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau.
Diddordebau Ymchwil
Mae gen i ddau edefyn ymchwil: fy ysgrifennu creadigol a fy ymchwil ieithyddol.
Rydw i'n awdur sawl nofel Gymraeg, gan gynnwys Pumed Gainc y Mabinogi (2022), Cysgod y Mabinogi (2024) ac Anfarwol, neu Diflaniad Theophilus Cibber (2025). Rydw i'n ysgrifennu yn ac o amgylch o genre arswyd cosmig, gan gyfuno chwedloniaeth Gymreig gydag elfennau arswyd, ffantasi neu wyddonias. Yn fy ysgrifennu rydw i'n archwilio themau fel Cymreictod (a Chymreictodau), hunaniaeth, traddodiad a pherthyn.
Enillodd Anfarwol Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025. Cyrhaeddodd Pumed Gainc y Mabinogi restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2023.
Mae ffocws fy niddordebau ymchwil ar ddwyieithrwydd (yn bennaf yn y cyd-destun Cymraeg a Chymreig), yn enwedig mewn cyfnewid cod Cymraeg-Saesneg ac mewn ieithyddiaeth cyffwrdd iaith, yn benodol effaith cyffwrdd iaith ar ramadeg ieithoedd lleiafrifol, gan ganolbwyntio ar y Gymraeg. Yn gyffredinol mae diddordeb gennyf mewn sosioieithyddiaeth, yn enwedig amrywiaeth gramadeg, ac rydw i wedi cyhoeddi ar amrywiaeth gramadeg a newid gramadeg yn y Gymraeg oherwydd cyffwrdd gyda'r Saesneg. Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ieithyddiaeth hanesyddol, yn bennaf yn yr ieithoedd Celtaidd a Germanaidd.
Teaching and Supervision (cy)
Yn bennaf rydw i’n dysgu modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgol, yn enwedig yn ymwneud â dwyieithrwydd, ac hefyd modiwlau cyfrwng Saesneg ar sosioieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Gymraeg ac/neu Ieithyddiaeth Hanesyddol, yn dibynnu ar eu hargaeledd. Mae’r pynciau rydw i’n ddysgu yn cynnwys trosolygion cyffredinol o ramadeg ac ieithyddiaeth y Gymraeg, agweddau ar ddwyieithrwydd (o ran gramadeg a chymdeithas), ieithyddiaeth hanesyddol a newid iaith, a sosioieithyddiaeth.
Mae'n well gennyf arolygu pynciau traethawd hir yn y meysydd uchod ac/neu mewn meysydd sy'n ymwneud â fy niddordebau ymchwil (fel a ddisgrifir ar y dudalen hon), ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn arolygu myfyrwyr ar bynciau mewn gramadeg Cymraeg, newid iaith Cymraeg a/neu dwyieithrwydd mewn sefyllfa iaith leiafrifol. Rydw i hefyd yn fodlon goruchwylio prosiectau ymchwil sydd yn cyd-fynd a fy ysgrifennu creadigol.
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
-
Marged
Davies, T. G. & Webb-Davies, P. (Golygydd), 2026, Melin Bapur. 400 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
-
Anfarwol: Neu, Diflaniad Theophilus Cibber
Webb-Davies, P., 5 Awst 2025, Talybont: Y Lolfa. 287 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
-
Galwad Cthulhu: A Straeon Arswyd Eraill
Webb-Davies, P. (Cyfieithydd) & Lovecraft, H. P., 22 Chwef 2025, Melin Bapur. 148 t. (Clasuron Byd Melin Bapur)Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
-
Initial consonant mutation in Welsh
Webb-Davies, P., 18 Awst 2025, The Palgrave Handbook of Celtic Languages and Linguistics. Eska, J., Nurmio, S., Ó Muircheartaigh, P. & Russell, P. (gol.). Palgrave Macmillan, 17 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
-
Sociolinguistic aspects of children’s Welsh
Webb-Davies, P., 10 Gorff 2025, The acquisition of Celtic languages. Chondrogianni, V., O'Toole, C. & Thomas, E. (gol.). Cambridge: Cambridge University Press, t. 268 21 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
Prosiectau
- 2 Wedi Gorffen
-
-
The nature of prosodic difficulties in second language learning
Webb-Davies, P. (PY)
1/10/14 → 30/09/15
Project: Ymchwil
Gweithgareddau
-
Anfarwol spotlighted at Frankfurt Book Fair by Wales Literature Exchange
Webb-Davies, P. (Cyfrannwr)
15 Hyd 2025 → 19 Hyd 2025Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Cosmic horror and the legends of medieval Wales / Arswyd cosmig a chwedloniaeth Cymru’r canol-oesoedd
Webb-Davies, P. (Siaradwr)
27 Tach 2024Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Review of Cysgod y Mabinogi (Barn)
Webb-Davies, P. (Derbynnydd)
Hyd 2024 → Tach 2024Gweithgaredd: Arall
-
Review of Cysgod y Mabinogi (Y Cymro)
Webb-Davies, P. (Derbynnydd)
Medi 2024 → Hyd 2024Gweithgaredd: Arall
-
Book launch for Cysgod y Mabinogi
Webb-Davies, P. (Siaradwr) & Gwanas, B. (Siaradwr)
15 Gorff 2024Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar
Gwobrau
-
Daniel Owen Memorial Prize 2025
Webb-Davies, P. (Derbynydd), 5 Awst 2025
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
-
Wales Book of the Year 2023 Shortlist
Webb-Davies, P. (Derbynydd), 21 Mai 2023
Gwobr: Anrhydedd genedlaethol/ryngwladol
Toriadau
-
Interview about my writing on Caryl Parry-Jones' radio show
22/10/25
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Arall
-
Anfarwol selected to be recommended for translation by Wales Literature Exchange
13/10/25
1 eitem o Sylw ar y cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Arall
-
-
Live broadcast of Daniel Owen Memorial Prize ceremony at National Eisteddfod and subsequent interviews (S4C and Radio Cymru)
5/08/25
1 eitem o Sylw ar y cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Arall
-
Arswyd Cosmig: Welsh novelist translates classic horror stories
22/02/25
1 eitem o Sylw ar y cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Arall
Traethawd Ymchwil
-
Identifying word-order convergence in the speech of Welsh-English bilinguals
Webb-Davies, P. (Awdur), Deuchar, M. (Goruchwylydd), Ion 2010Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
Ffeil