!!Research output per year
!!Research output per year
Dr
Derbyn Myfyrwyr PhD
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae iaith, llais a thechnoleg yn siapio profiadau pobl o berthyn mewn cymunedau ieithyddol dwyieithog a lleiafrifol.
Rwy’n arbenigo mewn seineg y Gymraeg, dwyieithrwydd a thechnolegau iaith ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau. Mae fy ngwaith yn ymchwilio i sut mae pobl yn dysgu a defnyddio’r Gymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar siaradwyr newydd y Gymraeg a dysgu iaith yn ail yn oedolion.
Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae amrywio ieithyddol yn dylanwadu ar hyder pobl, eu hunaniaeth a’u teimlad o gael eu cynnwys o fewn cymunedau iaith, a sut y gall ymchwil gyfrannu at ddatblygu dulliau cynhwysol o (a)ddysgu iaith, polisi a thechnoleg.
Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â seineg y Gymraeg, dwyieithrwydd, agweddau iaith a thechnolegau iaith ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau. Mae fy ymchwil yn archwilio sut mae pobl yn dysgu, cynhyrchu a chanfod lleferydd, a sut mae amrywio ieithyddol yn dylanwadu ar brofiadau pobl o hunaniaeth, cynhwysiant a pherthyn o fewn cymunedau iaith.
Mae un o brif feysydd fy ngwaith yn canolbwyntio ar sut mae oedolion yn caffael seiniau’r Gymraeg wrth ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae ffactorau fel profiad ieithyddol, amlygiad i’r iaith a chymhelliant yn dylanwadu ar ddatblygu ynganu, a sut mae gwrandawyr yn canfod ac yn gwerthuso gwahanol fathau o leferydd Cymraeg.
Rwy’n gweithio’n agos gyda’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, gan gyfrannu at ymchwil ac adnoddau ym maes technoleg iaith Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys gwaith gyda Corpws Lleferydd Paldaruo, adnodd sy’n cefnogi ymchwil a datblygiad technolegau lleferydd Cymraeg.
Rwy’n Gydlynydd Cwrs ar gyfer yr MSc Technolegau Iaith ac rwy’n cyfrannu at addysgu mewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd. Mae fy dysgu yn cynnwys seineg a ffonoleg, dwyieithrwydd, dysgu lleferydd mewn ail iaith, a chyfathrebu a thechnoleg.
Rwy’n angerddol am (a)ddysgu yn seiliedig ar ymchwil ac addysg gynhwysol, gan gefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dadansoddol, hyder a’r gallu i ddefnyddio gwybodaeth ieithyddol tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Rwy’n goruchwylio prosiectau ymchwil israddedig, ôl-raddedig a doethurol mewn seineg y Gymraeg, dwyieithrwydd, dysgu ynganu, agweddau tuag at iaith a thechnolegau iaith. Rwy hefyd yn cyfrannu at ddysgu a goruchwylio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog o fewn yr Adran.
Rwy’n cydweithio ag ymchwilwyr a phartneriaid allanol ym meysydd addysg a thechnoleg i ddatblygu ymchwil ac adnoddau sy’n cefnogi dysgu’r Gymraeg, dwyieithrwydd a thechnolegau iaith.
Wnes i arwain ar brosiect Cyflwyniad i Ieithyddiaeth (Coleg Cymraeg Cenedlaethol), gan gyd-olygu gwerslyfr ieithyddiaeth modern drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y prosiect ag ymchwilwyr o bob rhan o Gymru ynghyd a chefnogodd ddatblygiad terminoleg ac adnoddau ieithyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys cyfieithu’r Wyddor Seinegol Ryngwladol i’r Gymraeg. Mae Cyflwyniad i Ieithyddiaeth bellach yn cael ei ddefnyddio mewn prifysgolion ledled Cymru i gefnogi addysg ieithyddiaeth ac iaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rwyf hefyd wedi sicrhau a chefnogi ymchwil doethurol wedi’i hariannu gyda sefydliadau gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a KESS II gyda Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ynganu’r Gymraeg, addysgu ynganu a thechnoleg adnabod lleferydd. Rwyf hefyd yn goruchwylio ymchwilwyr doethurol a ariennir drwy Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol DTP ESRC Cymru a Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Crynodeb
Prys, D. (Cyfranogwr), Jones, D. (Cyfranogwr), Prys, G. (Cyfranogwr), Cooper, S. (Cyfranogwr) & Prys, M. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus, Technegol
Cooper, S. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Cooper, S. (Cyfrannwr)
Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau
Cooper, S. (Cyfrannwr)
Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau
Hristova, E. (Cyfarwyddwr), Kirkpatrick, L. (Aelod), Koehler, K. (Aelod), Cooper, S. (Aelod), MacLeod, K. (Aelod), Monnereau, A. (Aelod), Huey, L. (Aelod), Cameron, F. (Aelod), Blandford-Elliott, M. (Aelod), Harrison, S. (Aelod), Sivanantharajah, L. (Aelod), Hooker, N. (Aelod), Moorhouse-Gann, R. (Aelod), Makurunje, P. (Aelod), Maister, L. (Aelod), Conran, A. (Aelod) & Crandell, K. (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o rwydwaith
Hostler, D. (Siaradwr), Child, J. (Siaradwr), Cooper, S. (Siaradwr), Day, R. (Siaradwr) & Williams, M. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Cooper, S. (Derbynydd), 2015
Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)
24/09/21
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw Arbennigol
Cooper, S. (Lluniwr), Chan, D. (Lluniwr) & Jones, D. (Lluniwr), Prifysgol Bangor University, 2015
http://techiaith.cymru/corpora/paldaruo/
Set ddata
Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth
Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth