Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Dr
Derbyn Myfyrwyr PhD
Prosiectau PhD
I am interested in supervising PhDs on Shakespeare in Education in the UK and internationally, as well on the teaching of literature more generally in and beyond the UK, in and beyond the English-language environments. I am interested in these topics in terms of policy, pedagogy, and their representation in popular culture and on social media. I am interested in these topics as they relate to various sectors: schools, higher education, further education, theatre and heritage education departments.
As a researcher and the lead editor of the peer-reviewed journal Jeunesse: Young people, texts, cultures, I am interested in supervising PhDs on children's literature, particularly young adult gothic literature.
I am most interested supervising PhD projects where the theoretical/conceptual frameworks and research methods are drawn from literary criticism, critical theory, cultural studies, literary, content and discourse analysis.
N.b. These are not funded PhD opportunities.
To give prospective applicants an idea of the sorts of PhD projects I supervise, some of my previous supervisees (at the University of York) include:
*Daniel XERRI. Lead supervisor with Dr Nicholas McGuinn. Passed without corrections. January 2016. Poetry in Malta.
*Chelsea SELLARS. (née Swift). Supervisor. Passed with minor corrections. July 2016. Children’s reading identities in North Yorkshire.
*Paulina BRONFMAN COLLOVATI. Lead supervisor with Prof. Vanita Sundaram. Passed with minor corrections. Shakespeare for human rights in the UK. July 2019.
*Laura NICKLIN. Supervisor. Passed without corrections. January 2020. Shakespeare for rehabilitation in the United States’ prison system.
*YING Zou. Lead supervisor with Dr Clémentine Beauvais. Passed with minor corrections. April 2020. Chinese parents’ use of English language picturebooks.
* Hatice Herdili SAHIN. Lead supervisor with Kerry Knox. Passed with minor corrections. June 2022. Arts Education in Turkish schools.
Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar Shakespeare mewn Addysg yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â dysgu llenyddiaeth yn fwy cyffredinol yn y DU a thu hwnt, yn y byd iaith Saesneg a thu hwnt. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn o ran polisi, addysgeg, a sut y cânt eu cynrychioli mewn diwylliant poblogaidd ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn gan eu bod yn ymwneud ag amrywiol sectorau: ysgolion, addysg uwch, addysg bellach ac adrannau addysg theatr a threftadaeth. Fel ymchwilydd a phrif olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid Jeunesse: Young people, texts, cultures, mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar lenyddiaeth plant, yn enwedig llenyddiaeth gothig i oedolion ifanc. Mae fy niddordeb mwyaf mewn goruchwylio projectau doethuriaeth lle mae'r fframweithiau damcaniaethol/cysyniadol a'r dulliau ymchwil yn tarddu o feirniadaeth lenyddol, theori feirniadol, astudiaethau diwylliannol, a dadansoddi llenyddiaeth, cynnwys a disgwrs. Sylwer: Nid yw'r rhain yn gyfleoedd PhD a ariennir. Er mwyn rhoi syniad i ddarpar ymgeiswyr o'r mathau o brojectau doethuriaeth rwy'n eu goruchwylio, dyma rai o'r ymgeiswyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn y gorffennol (ym Mhrifysgol Efrog): * Daniel XERRI. Goruchwyliwr arweiniol gyda Dr Nicholas McGuinn. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2016. Barddoniaeth ym Malta. * Chelsea SELLARS. (née Swift). Goruchwyliwr. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Gorffennaf 2016. Hunaniaethau darllen plant yng Ngogledd Swydd Efrog. * Paulina BRONFMAN COLLOVATI. Prif oruchwyliwr gyda'r Athro Vanita Sundaram. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Defnyddio Shakespeare ar gyfer hawliau dynol yn y DU. Gorffennaf 2019. * Laura NICKLIN. Goruchwyliwr. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2020. Defnyddio Shakespeare ar gyfer adsefydlu yn system garchardai’r Unol Daleithiau. * YING Zou. Prif oruchwyliwr gyda Dr Clémentine Beauvais. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Ebrill 2020. Defnydd rhieni Tsieineaidd o lyfrau lluniau Saesneg.
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Rwy'n Uwch Ddarlithydd (English Literature, Aston) ac Uwch Gymrawd Ymchwil (School of Educational Sciences, Bangor) er Anrhydedd ag arbenigedd ymchwil ar Shakespeare, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn 2021, cyhoeddodd Palgrave Shakespeare in East Asian Education, llyfr y bu i mi ei ysgrifennu ar y cyd gydag UCHIMARU Kohei, Adele LEE, a Rosalind FIELDING. Cyhoeddwyd fy monograff cyntaf, Shakespeare Valued, gan Intellect yn 2015. Mae manylion llawn fy nghyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys penodau llyfrau ac erthyglau, i'w gweld ar y wefan hon o dan y tabiau 'fy ymchwil' > 'allbynnau ymchwil'.
Mae gen i ddiddordeb mewn addysgu llenyddiaethau, yn Saesneg neu wedi'u cyfieithu i’r iaith, yn Saesneg yn fwy cyffredinol, o ran polisi, addysgeg, a chynrychiolaeth o addysgu llenyddiaeth mewn diwylliant poblogaidd. Mae cwmpas fy niddordeb yn cynnwys addysgu llenyddiaethau mewn amgylcheddau Saesneg a thu hwnt. Yn 2022-23, fi oedd yr Athro Megumi ar Ymweliad yn Adran Saesneg Coleg Kobe, Japan. Mae gennyf ddiddordeb yn y pwnc am ei fod yn berthnasol i nifer o sectorau: ysgolion, addysg uwch, addysg bellach, adrannau addysg theatr a threftadaeth, diwydiannau creadigol eraill a'r cyfryngau.
Yn 2011, deuthum yn olygydd cyntaf Teaching Shakespeare y British Shakespeare Association, sef cylchgrawn traws-sector ar gyfer addysgwyr Shakespeare yn rhyngwladol. Goruchwyliais gyhoeddi 21 o gyfrolau sydd ar gael am ddim, gyda darllenwyr mewn dros 60 o wledydd, cyn ymgymryd â swydd Prif Olygydd y cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid Jeunesse: young people, texts, cultures yn 2021. Sefydlwyd a rhedwyd Jeunesse ym Mhrifysgol Winnipeg, Canada, cyn ymuno ag adran cyfnodolion mawreddog Gwasg Prifysgol Toronto ddiwedd 2021.
Mae fy ngolygyddiaeth o Jeunesse yn adlewyrchu, ac yn cyfrannu at, ddechrau ennill bri am ymchwil i lenyddiaeth a diwylliant oedolion ifanc, yn benodol y gothig. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth fampir cyfoes oedolion ifanc yn ail-greu gweithiau Shakespeare, yn enwedig ailadrodd Romeo a Juliet yn yr unfed ganrif ar hugain, a'i gynrychiolaeth o gydsyniad rhywiol a thrais mewn perthynas â gweithredu ffeministaidd ddiweddar yn rhyngwladol. Yn 2022, enillais Wobr Cyflymu Effaith i lunio podlediad dwyieithog ar ffuglen fampir oedolion ifanc, cydsyniad, trais rhywiol a thrais mewn perthynas (cadwch lygad yma am gysylltiadau i'r podlediad yn 2023).
Yr hyn sy'n uno fy niddordebau ymchwil amrywiol yn y Saesneg ac mewn Addysg yw bod fy fframweithiau damcaniaethol a chysyniadol, a'm dulliau ymchwil, yn tynnu'n gyson ar feirniadaeth lenyddol; theori feirniadol; astudiaethau diwylliannol; dadansoddiad llenyddol, cynnwys a disgwrs i ddadansoddi testunau a data ansoddol arall (trawsgrifiadau cyfweliad, deunydd ar wefannau cyfryngau cymdeithasol, a data arolwg, er enghraifft).
Yn 2018, ar y cyd â Dr Clémentine Beauvais, mi wnes i greu’r FutureLearn Pictures of Youth MOOC, cwrs ar-lein sydd ar gael am ddim, yn archwilio diwylliant gweledol plant mewn llyfrau lluniau, comics, teledu a ffilm. Cafwyd dros 15,000 o gyfranogwyr mewn pedair blynedd, gyda chyfradd dal gafael uwch na'r cyffredin. Rwyf hefyd yn mwynhau ymchwilio, addysgu a lledaenu fy ngwaith yn rhyngwladol, yn y cnawd, gyda phrofiad helaeth yn Nwyrain Asia.
Rwy'n Uwch Gymrawd Academi Addysg Uwch y Deyrnas Unedig (Advance HE bellach) gyda Thystysgrif Ôl-radd mewn Ymarfer Academaidd (PGCAP), cymhwyster addysgu mewn addysg uwch, o Brifysgol Efrog yn 2013. Rwy'n oruchwyliwr ymchwil profiadol (gweler yr adran Ôl-radd isod am restr o’m myfyrwyr PhD blaenorol a’m diddordebau goruchwylio). Dyfarnwyd statws goruchwyliwr ymchwil cydnabyddedig Cyngor Graddedigion y Deyrnas Unedig (UKGCE) i mi yn 2019.
Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar Shakespeare mewn Addysg yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â dysgu llenyddiaeth yn fwy cyffredinol yn y DU a thu hwnt, yn y byd iaith Saesneg a thu hwnt. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn o ran polisi, addysgeg, a sut y cânt eu cynrychioli mewn diwylliant poblogaidd ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb yn y pynciau hyn gan eu bod yn ymwneud ag amrywiol sectorau: ysgolion, addysg uwch, addysg bellach ac adrannau addysg theatr a threftadaeth. Fel ymchwilydd a phrif olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid Jeunesse: Young people, texts, cultures, mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio doethuriaethau ar lenyddiaeth plant, yn enwedig llenyddiaeth gothig i oedolion ifanc. Mae fy niddordeb mwyaf mewn goruchwylio projectau doethuriaeth lle mae'r fframweithiau damcaniaethol/cysyniadol a'r dulliau ymchwil yn tarddu o feirniadaeth lenyddol, theori feirniadol, astudiaethau diwylliannol, a dadansoddi llenyddiaeth, cynnwys a disgwrs. Sylwer: Nid yw'r rhain yn gyfleoedd PhD a ariennir.
Er mwyn rhoi syniad i ddarpar ymgeiswyr o'r mathau o brojectau doethuriaeth rwy'n eu goruchwylio, dyma rai o'r ymgeiswyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn y gorffennol (ym Mhrifysgol Efrog): * Daniel XERRI. Goruchwyliwr arweiniol gyda Dr Nicholas McGuinn. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2016. Barddoniaeth ym Malta. * Chelsea SELLARS. (née Swift). Goruchwyliwr. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Gorffennaf 2016. Hunaniaethau darllen plant yng Ngogledd Swydd Efrog. * Paulina BRONFMAN COLLOVATI. Prif oruchwyliwr gyda'r Athro Vanita Sundaram. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Defnyddio Shakespeare ar gyfer hawliau dynol yn y DU. Gorffennaf 2019. * Laura NICKLIN. Goruchwyliwr. Pasiwyd heb gywiriadau. Ionawr 2020. Defnyddio Shakespeare ar gyfer adsefydlu yn system garchardai’r Unol Daleithiau. * YING Zou. Prif oruchwyliwr gyda Dr Clémentine Beauvais. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Ebrill 2020. Defnydd rhieni Tsieineaidd o lyfrau lluniau Saesneg. *Hatice Herdili SAHIN. Prif oruchwyliwr gyda Kerry Knox. Pasiwyd gyda mân gywiriadau. Mehefin 2022. Addysgu’r Celfyddydau mewn ysgolion yn Nhwrci.
Hanes cyflogaeth.
2022-23 yr Athro Megumi ar Ymweliad, Saesneg, Coleg Kobe, Japan.
2021- Uwch Ddarlithydd, Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Bangor
2017-21 Uwch Ddarlithydd, Addysg, Prifysgol Efrog
2010-17 Darlithydd, Addysg, Prifysgol Efrog
2011-19 Darlithydd Gwadd, Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham
2007-10 Darlithydd Cyswllt, Prifysgol Agored
Cymwysterau
2013 Prifysgol Efrog, Tystysgrif Ôl-radd Ymarfer Academaidd
2011 Sefydliad Shakespeare, Prifysgol Birmingham, PhD mewn Saesneg a ariannwyd gan yr AHRC
2005 Prifysgol Caergrawnt, M.Phil mewn Ymchwil Addysgol
2003 Prifysgol Adelaide, BA (Anrh) Dosbarth 1af, Saesneg prif bwnc
Achrediad proffesiynol
2019 Goruchwyliwr Ymchwil Cydnabyddedig, Cyngor Addysg i Raddedigion y Deyrnas Unedig (UKCGE)
2018 Uwch Gymrawd, Academi Addysg Uwch (Cymrawd cyn hynny, 2013-2018)
Dyletswyddau golygyddol
2021— Prif Olygydd Jeunesse: Young people, texts, culture (Golygydd cyn hynny 2020-21)
2016-21 Aelod Panel Ymgynghorol Golygyddol, Palgrave Communications, sef Humanities and Social Sciences Communications erbyn hyn.
2011-21 Golygydd Cyntaf, Teaching Shakespeare, British Shakespeare Association. (21 rhifyn).
Ar y gweill, Golygydd Gwadd, rhifyn 'Hot Shakespeare, Cool Japan', Cahiers Élisabéthains.
DINASYDDIAETH ACADEMAIDD YM MANGOR
Gweithgareddau ar lefel prifysgol
2021- Aelod o’r Senedd
2021- Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (aelod yr Ysgol Gwyddorau Addysgol)
2021- Hyfforddiant Datgelu Trais Rhywiol a chynrychiolydd Coleg y Gwyddorau Dynol
2021- Cynrychiolydd Coleg y Gwyddorau Dynol, Grŵp Concordat Ymchwil.
2021- Cynrychiolydd Ysgol y Gwyddorau Addysgol, Sefydliad Ymchwil y Coleg
Gweithgareddau adrannol
2021 - Cyfarwyddwr Ymchwil, aelod ex officio o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth
2021- Cyd-gyfarwyddwr CIEREI (Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith) gyda’r Athro Carl Hughes a Dr Richard Watkins (GwE – consortiwm gwella ysgolion Gogledd Cymru).
2021- Tîm ymateb i’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)
2021 - Tîm Athena Swan
2021-22 Cadeirydd Dros Dro, pwyllgor moeseg Ysgol y Gwyddorau Addysgol.
2021-22 Cadeirydd, tîm rheoli project Rhwydwaith Addysg Gydweithredol (CEN) Llywodraeth Cymru.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Golygyddiad
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu
Olive, S. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
Olive, S. (PY)
1/11/21 → 1/08/22
Project: Ymchwil
Jones, L. (Cyfrannwr) & Olive, S. (Cyfrannwr)
Gweithgaredd: Arall
Olive, S. (Cyfrannwr)
Gweithgaredd: Arall
Olive, S. (Aelod o fwrdd golygyddol)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Gweithgarwch golygyddol