Llun o Thora Tenbrink

Derbyn Myfyrwyr PhD

Prosiectau PhD

I welcome enquiries from students interested in pursuing a PhD related to cognitive discourse analysis and communication.
// Rwy'n croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn PhD sy'n gysylltiedig â dadansoddi disgwrs gwybyddol a chyfathrebu.

20102025

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Manylion Cyswllt

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig mewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas 

Email[email protected]

Phone: +44 (0)1248 38 2263

Location:

Ystafell 306, 37-41 Ffordd y Coleg,

Bangor, Gwynedd LL57 2DG, UK

Trosolwg

Rwy’n Athro Ieithyddiaeth a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Mae fy mhrif ffocws ar ddadansoddi disgwrs, a ddefnyddir yn benodol i ddeall sut mae pobl yn meddwl. Rwy’n awdur “Cognitive Discourse Analysis:  An Introduction” (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020) a “Space, Time, and the Use of Language” (Mouton de Gruyter, 2007). Rwy’n gyd-olygydd tri llyfr ar gynrychiolaeth ieithyddol a deialog, ac wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd iaith, gwybyddiaeth a chyfathrebu. Yn y blynyddoedd diweddar mae fy sylw wedi symud oddi wrth ofod (deall lleoliadau gofodol a chysylltiadau) i le (cysylltiadau ystyrlon â gofodau), yn enwedig mewn perthynas â newid hinsawdd.

Rwyf bob amser wedi mwynhau cydweithio rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol, o fewn meysydd gwybyddol neu wyddor cymdeithas a thu hwnt. Ar hyn o bryd rwy'n gysylltiedig â SellSTEM, rhwydwaith rhyngwladol o ymchwil cydweithredol a arweinir gan Ddulyn, ac mewn nifer o wahanol gynlluniau a phrojectau ledled Cymru sy’n rhoi sylw i safbwyntiau pobl, ac ymgysylltu â phryderon ynglŷn â’r amgylchedd. Ym Mangor, sefydlais y Ganolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd lle rwyf yn Gyfarwyddwr erbyn hyn, sef rhwydwaith rhyngddisgyblaethol helaeth o ymchwilwyr sy'n mynd i'r afael ag agweddau seiliedig ar le mewn perthynas â bygythiadau, mesurau lliniaru ac ymgysylltu â'r newid yn yr hinsawdd. Rwyf hefyd yn cyd-arwain y rhwydwaith newydd WISERD ar gyfer Cymru gyfan: Ymatebion Newid Hinsawdd yn Seiliedig ar Le (PATCCh).

 

Diddordebau Ymchwil

Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd rydym yn defnyddio iaith, ac yn beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ein meddyliau (cysyniadau a phrosesau meddwl). At y diben hwn, datblygais ddull empirig, Cognitive Discourse Analysis (CODA: Tenbrink, 2015, a 2020, Cambridge University Press). Yn nodweddiadol mae hyn yn golygu rhoi tasg benodol i siaradwyr, lle maent yn mynegi eu meddyliau rhywsut, ac yn cofnodi'r hyn maent yn ei ddweud gan ymateb. Yna dadansoddir y data ieithyddol trwy edrych yn fanwl ar sut y defnyddir iaith i fynegi meddyliau. Gall mewnwelediadau fod yn gysylltiedig ag ymchwil flaenorol ar sut mae iaith yn cysylltu â meddwl - er enghraifft o ieithyddiaeth wybyddol ddamcaniaethol neu feysydd cysylltiedig eraill.

Mae llawer o fy ymchwil wedi canolbwyntio ar sut rydym yn deall ac yn siarad am ein hamgylcheddau gofodol, er enghraifft pan rydym yn ceisio dod o hyd i'n ffordd i gyrchfan, neu egluro sut i ddod o hyd i swyddfa mewn adeilad cymhleth. Yn fwy diweddar mae fy ffocws wedi troi at syniadau am le (yn hytrach na gofod): sut rydym yn mynegi mewn iaith beth mae lleoedd yn ei olygu i ni, sut maen nhw'n berthnasol i ni, ac ym mha ffyrdd y gallai hyn gael ei effeithio gan effeithiau (neu lliniaru yn erbyn) newid hinsawdd?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i fy ngwefan, knirb.net.

Teaching and Supervision (cy)

Rwyf wedi addysgu modiwlau mewn nifer o feysydd Ieithyddiaeth a Gwyddorau Gwybyddol.

Ym maes Ieithyddiaeth, mae fy mhrif ffocws addysgu ar hyn o bryd yn ymwneud â methodoleg, yn benodol o ran defnyddio iaith ond hefyd yn rhychwantu meysydd eraill. Mae hyn yn cynnwys Dadansoddi Disgwrs, Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (Cognitive Discourse Analysis), Dulliau Ymchwil mewn Ieithyddiaeth, ac Iaith a Chyfathrebu. Mae fy addysgu yn ymdrin â meysydd sylfaenol mewn Ieithyddiaeth (e.e., yn Sylfeini Ieithyddiaeth) ond mae hefyd yn tynnu ar fewnwelediadau ehangach o Wyddoniaeth Wybyddol.

Rwy'n hapus i oruchwylio prosiectau ôl-radd ym mhob un o'r meysydd uchod, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio dadansoddiad disgwrs a/neu sy'n gysylltiedig ag ymlyniad lle, newid hinsawdd, ieithyddiaeth wybyddol, cyfathrebu, gramadeg swyddogaethol, a mwy - cysylltwch â mi i drafod!

Cyfleoedd Prosiectau Ol-Raddedig

Rwy'n croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn PhD sy'n gysylltiedig â dadansoddi disgwrs gwybyddol a chyfathrebu.

Grantiau a Projectau

EU Project: Enhancing spatial ability to help close the gender gap in STEM Press release

Consortium member of EU project 956124: SellSTEM, EU H2020-MSCA-ITN-2020 Consortium initiated by Dr. Gavin Duffy, Dublin. Title: Spatial thinking in STEM learning: Training a new generation of researchers to increase enrolment and gender balance in STEM learning by addressing deficits in spatial ability among children in Europe. Duration: January 2021 - December 2024.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
  • NDC 17 - Partneriaethau ar gyfer y Nodau

Dogfennau perthnasol

Addysg / Cymwysterau academaidd

Ol-Raddedigol, DPhil, Localising objects and events: Discoursal applicability conditions for spatiotemporal expressions in English and German, Bremen University

Dyddiad Dyfarnu: 30 Tach 2005

Allweddeiriau

  • P Philology. Linguistics
  • HT Communities. Classes. Races
  • PE English

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Thora Tenbrink ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu