Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae Vladyslav Kulikov yn fyfyriwr PhD (2022 – presennol) ac yn Swyddog Ymchwil (2025 – presennol) mewn economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei brosiect PhD yn canolbwyntio ar ddewisiadau ynghylch rolau ymarferwyr rhagnodi cymdeithasol yng Ngogledd Cymru ac yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Fel swyddog ymchwil, mae Vladyslav yn rhan o brosiect GRACE, a gyd-arweinir ar y cyd gan Dr Emily Holmes (Prifysgol Bangor) a Dr Lisa Ashmore (Prifysgol Lancaster). Mae’n arbenigo mewn technegau echdynnu dewisiadau ac ymchwil dulliau cymysg.
E-bost: [email protected] / [email protected]
Goruchwylir Vladyslav gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor, a'r Athro Deborah Fitzsimmons, Cyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd Abertawe o Brifysgol Abertawe.
Ganwyd Vladyslav ar 11 Ebrill 1999, yn Kyiv, Wcráin, mewn teulu o niwrolawfeddygon. Fe fagwyd ef ac aeth i’r ysgol yn Kyiv, ac eithrio’r cyfnod 2014–2015 pan aeth Vladyslav i fyw ac astudio yn yr Unol Daleithiau. Roedd hyn yn rhan o’r Rhaglen Cyfnewid Arweinwyr y Dyfodol (Future Leaders Exchange Program), a noddwyd gan Adran Wladol yr Unol Daleithiau ac a sefydlwyd yng ngweriniaethau cyn-Sofietaidd. Yn 2016 cofrestrodd Vladyslav ym Mhrifysgol Feddygol Genedlaethol Bogomolets, yr ysgol feddygol fwyaf yn Wcráin, sydd wedi’i lleoli yn Kyiv. Roedd Vladyslav gartref gyda’i deulu ym Moryspil, ger Kyiv, pan ddechreuodd goresgyniad Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022. Cafodd y teulu eu dadleoli i Chernivtsi, yng ngorllewin Wcráin, lle daeth Vladyslav ar draws hysbyseb am fyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Bangor. Gwnaeth gais ym mis Ebrill, a symudodd i’r DU ym mis Mehefin 2022, ar ôl graddio o’r ysgol feddygol wythnos ynghynt. Ar hyn o bryd mae Vladyslav yn byw ym Mangor ac yn rhannu ei amser rhwng PhD a gwaith prosiect yn y brifysgol. Mae hefyd yn ddehonglydd llawrydd, gan helpu ffoaduriaid o Wcráin yn y DU drwy ddehongli iddynt yn y lleoliad gofal iechyd. Yn ei amser hamdden mae Vladyslav yn mwynhau darllen, chwarae’r gitâr, ymladd am docynnau gigs ar Ticketmaster, a dysgu sut i chwarae tenis. Mae’n edrych ymlaen at gam nesaf ei yrfa, pan fydd Vladyslav yn gallu cymhwyso ei sgiliau mewn swyddi sy’n adlewyrchu ei gefndir a’i ddiddordebau.
Profesiynol, Profesiynol, Doethur Meddygaeth, Bogomolets National Medical University
1 Medi 2016 → 13 Meh 2022
Dyddiad Dyfarnu: 13 Meh 2022
Cyfieithydd llawrydd, Wales Interpretation and Translation Services
29 Gorff 2022 → …
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Murlen