Crynodeb
Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglŷn â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau.
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
|---|---|
| Tudalennau (o-i) | 33-54 |
| Cyfnodolyn | Gwerddon |
| Rhif cyhoeddi | 33 |
| Dynodwyr Gwrthrych Digidol (DOIs) | |
| Statws | Cyhoeddwyd - Hyd 2021 |
| Cyhoeddwyd yn allanol | Ie |
Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver