Crynodeb
Prif genhadaeth Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yw darparu arbenigedd academaidd a chefnogaeth addysgol am ddim yn y meysydd athroniaeth, crefydd a moeseg i athrawon o lefelau TGAU hyd at gyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, sesiynau adolygu, a digwyddiadau DPP. Ers mis Hydref 2022, mae’r Ganolfan wedi derbyn llif cyson o adroddiadau ac adborth negyddol gan athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru ynghylch y modd y mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), wedi cael ei roi ar waith.
Gwelwyd yng Nghymru’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu a ddaeth i fodolaeth ym mis Medi 2022, yn yn ailenwi pwnc ‘Addysg Grefyddol’ (AG) i ‘Crefydd, Gwerthoedd, a Moeseg’ (CGM), gyda’r amod ei fod yn bwnc gorfodol i bob myfyriwr o 3 i 16 oed. Cafodd y pwnc newydd hwn ei integreiddio wedyn i Faes Addysgu a Dysgu y Dyniaethau.
Er mwyn adnabod yr agweddau a oedd yn peri pryder i’r athrawon a gysylltodd, a cheisio canfod atebion posibl, ymgymrodd Cyfarwyddwyr y Ganolfan, Dr Joshua Andrews, Dr Gareth Evans-Jones, a’r Athro Lucy Huskinson, a chynorthwy-ydd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, â phrosiect ymchwil ansoddol a meintiol drwy ddosbarthu holiaduron ymysg athrawon CGM ledled Cymru. Roedd yr ymatebion yn gwbl anhysbys ac yn ddienw, a derbyniwyd 58 ymateb o ysgolion ar draws 17 gwahanol sir a bwrdeistref Gymreig, ac o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ysgolion anghenion addysgol arbennig, a’r rhai sy’n arbenigo mewn dysgu gydol oes. Ymatebodd 34 drwy gyfrwng y Saesneg a 24 drwy gyfrwng y Gymraeg.

| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
|---|---|
| Nifer y tudalennau | 24 |
| Statws | Cyhoeddwyd - 2 Ebr 2024 |
NDC y CU
Mae’r allbwn hwn yn cyfrannu at y Nod(au) Datblygu Cynaliadwy canlynol
-
NDC 4 Addysg o Ansawdd
Allbwn Ymchwil
- 1 Adoddiad Arall
-
Report on the teaching provision of Religion, Values and Ethics in Schools in Wales
Huskinson, L., Andrews, J. (Cyfrannwr) & Evans-Jones, G. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 23 t.Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall
Mynediad agoredFfeil
Effeithiau
-
News article in North Wales Chronicle
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Andrews, J. (Cyfranogwr) & Evans-Jones, G. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
-
News article on BBC Cymru Fyw website
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Evans-Jones, G. (Cyfranogwr) & Andrews, J. (Cyfranogwr)
Effaith: Diwilliannol, Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus
-
Newyddion 9 S4C / 9 o'clock News on S4C
Huskinson, L. (Cyfranogwr), Evans-Jones, G. (Cyfranogwr) & Andrews, J. (Cyfranogwr)
Effaith: Cymdeithasol, Polisi a Gwasanaethau Cyhoeddus, Diwilliannol
Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver