Crynodeb
Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn
y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau , ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyddestun adfywio ieithyddol.

| Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | Phonological variation of (ai) in the final unstressed syllable in Cardiff Welsh |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Tudalennau (o-i) | 47-75 |
| Cyfnodolyn | Gwerddon |
| Cyfrol | 35 |
| Rhif cyhoeddi | 1 |
| Statws | Cyhoeddwyd - 31 Gorff 2023 |
Allweddeiriau
- amrywio ieithyddol
- Cymraeg
- Caerdydd
- cyffyrddiad tafodieithol
- safoni
- ffurfio tafodiaith newydd
- adfywio ieithyddol
Ôl bys
Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver