TY - BOOK
T1 - Dadansoddiad Cenedlaethol Darpariaeth Ysgol Uwchradd dan y Cwricwlwm i Gymru
AU - Huskinson, Lucy
AU - Evans-Jones, Gareth
AU - Andrews, Joshua
AU - Healand-Sloan, Rachel
PY - 2026/10/13
Y1 - 2026/10/13
N2 - Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr hyd yma o’r modd y gweithredir Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru dan y Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar y ddarpariaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2025–26. Drwy ymarfer cenedlaethol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, cysylltwyd â 195 o ysgolion a chafwyd ymatebion gan 135 ohonynt, cyfradd ymateb gyffredinol o 69.2%. Y cyfraddau ymateb rhanbarthol oedd 73.6% yng Ngogledd Cymru (39/53), 56.3% yng Nghanolbarth Cymru (9/16) a 69.0% yn Ne Cymru (87/126). Roedd gan un ar ddeg o’r ysgolion a ymatebodd gymeriad crefyddol, bob un ohonynt yn Ne Cymru.
Y prif ganfyddiad yw nad yw’r hawl orfodol i CGM yn cael ei sicrhau’n gyson, ac nad yw’r broblem wedi’i chyfyngu i wahaniaethau wrth gynllunio’r cwricwlwm. Yng Ngogledd Cymru, nododd dwy ysgol a ymatebodd nad oeddent yn darparu CGM o gwbl ym Mlynyddoedd 7–11, a nododd saith nad oedd CGM yn orfodol i bob dysgwr yn un neu’r ddwy o Flynyddoedd 10–11. Yn Ne Cymru, nid oedd CGM yn rhan o’r cwricwlwm mewn 2.3% o ysgolion ym Mlynyddoedd 7–9; ni nododd 3.4% unrhyw CGM ym Mlwyddyn 10 na 6.9% ym Mlwyddyn 11. Y tu hwnt i’r achosion hyn, ceir patrwm llawer ehangach: er bod ysgolion yn nodi bod CGM yn bresennol, nid yw’r amser, y staffio, y strwythur na’r parhad sydd eu hangen ar gwricwlwm cydlynol sy’n cynnig her gynyddol yn cael eu sicrhau’n gyson.
Mae’r gwahaniaeth rhwng cydymffurfiaeth ffurfiol a chydymffurfiaeth sylweddol yn ganolog i ddadansoddiad yr adroddiad. Gellir dangos cydymffurfiaeth ffurfiol pan fo CGM yn ymddangos ar amserlen, wedi’i gynnwys mewn maes pwnc ehangach neu wedi’i nodi mewn dogfennau cwricwlaidd. Mae cydymffurfiaeth sylweddol, fodd bynnag, yn gofyn inni ystyried a yw dysgwyr yn cael darpariaeth CGM reolaidd, gydlynol a digon datblygedig drwy gydol Blynyddoedd 7–11. Mae hyn yn cynnwys faint o amser cwricwlaidd a neilltuir i CGM a pha mor rheolaidd ydyw; parhad y ddarpariaeth rhwng grwpiau blwyddyn; arbenigedd staff a’r modd y’u defnyddir; a’r graddau y mae’r cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u hymgysylltiad disgyblaethol. Nid yw presenoldeb CGM yng nghwricwlwm datganedig ysgol, felly, yn profi ynddo’i hun fod yr hawl orfodol yn cael ei gwireddu’n ymarferol.
AB - Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr hyd yma o’r modd y gweithredir Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru dan y Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio ar y ddarpariaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2025–26. Drwy ymarfer cenedlaethol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, cysylltwyd â 195 o ysgolion a chafwyd ymatebion gan 135 ohonynt, cyfradd ymateb gyffredinol o 69.2%. Y cyfraddau ymateb rhanbarthol oedd 73.6% yng Ngogledd Cymru (39/53), 56.3% yng Nghanolbarth Cymru (9/16) a 69.0% yn Ne Cymru (87/126). Roedd gan un ar ddeg o’r ysgolion a ymatebodd gymeriad crefyddol, bob un ohonynt yn Ne Cymru.
Y prif ganfyddiad yw nad yw’r hawl orfodol i CGM yn cael ei sicrhau’n gyson, ac nad yw’r broblem wedi’i chyfyngu i wahaniaethau wrth gynllunio’r cwricwlwm. Yng Ngogledd Cymru, nododd dwy ysgol a ymatebodd nad oeddent yn darparu CGM o gwbl ym Mlynyddoedd 7–11, a nododd saith nad oedd CGM yn orfodol i bob dysgwr yn un neu’r ddwy o Flynyddoedd 10–11. Yn Ne Cymru, nid oedd CGM yn rhan o’r cwricwlwm mewn 2.3% o ysgolion ym Mlynyddoedd 7–9; ni nododd 3.4% unrhyw CGM ym Mlwyddyn 10 na 6.9% ym Mlwyddyn 11. Y tu hwnt i’r achosion hyn, ceir patrwm llawer ehangach: er bod ysgolion yn nodi bod CGM yn bresennol, nid yw’r amser, y staffio, y strwythur na’r parhad sydd eu hangen ar gwricwlwm cydlynol sy’n cynnig her gynyddol yn cael eu sicrhau’n gyson.
Mae’r gwahaniaeth rhwng cydymffurfiaeth ffurfiol a chydymffurfiaeth sylweddol yn ganolog i ddadansoddiad yr adroddiad. Gellir dangos cydymffurfiaeth ffurfiol pan fo CGM yn ymddangos ar amserlen, wedi’i gynnwys mewn maes pwnc ehangach neu wedi’i nodi mewn dogfennau cwricwlaidd. Mae cydymffurfiaeth sylweddol, fodd bynnag, yn gofyn inni ystyried a yw dysgwyr yn cael darpariaeth CGM reolaidd, gydlynol a digon datblygedig drwy gydol Blynyddoedd 7–11. Mae hyn yn cynnwys faint o amser cwricwlaidd a neilltuir i CGM a pha mor rheolaidd ydyw; parhad y ddarpariaeth rhwng grwpiau blwyddyn; arbenigedd staff a’r modd y’u defnyddir; a’r graddau y mae’r cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u hymgysylltiad disgyblaethol. Nid yw presenoldeb CGM yng nghwricwlwm datganedig ysgol, felly, yn profi ynddo’i hun fod yr hawl orfodol yn cael ei gwireddu’n ymarferol.
UR - https://www.bangor.ac.uk/sah/national-centre-of-religious-education-for-wales
M3 - Adoddiad Arall
BT - Dadansoddiad Cenedlaethol Darpariaeth Ysgol Uwchradd dan y Cwricwlwm i Gymru
ER -