Crynodeb
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o’r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i’r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae’r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi’i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser.
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
|---|---|
| Tudalennau (o-i) | 31-46 |
| Cyfnodolyn | Gwerddon |
| Rhif cyhoeddi | 22 |
| Statws | Cyhoeddwyd - Hyd 2016 |
Dyfynnu hyn
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver