Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Lles mewn gwaith: Y dadleuon economaidd dros fuddsoddi mewn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru

    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad Comisiwn › adolygiad gan gymheiriaid

    Crynodeb

    Mae'r adroddiad lles mewn gwaith wedi canolbwyntio ar y dadleuon economaidd sy'n berthnasol i 1. Gweithlu amrywiol a chynhwysol yng Nghymru; 2. Gwerthfawrogi gweithwyr, a chadw’n iach ar gyfer gweithlu cost-effeithiol; 3. Diweithdra a dychwelyd i’r gwaith. Er bod y gyfradd ddiweithdra yn isel ar hyn o bryd, mae yna resymau eraill dros lai o gynhyrchiant fel absenoldeb a phresenoldeb yn effeithio ar lefel cynhyrchiant yng Nghymru.


    Mae adolygiad cyflym o lenyddiaeth fyd-eang wedi dangos bod mentrau cyflogwyr a all fod yn gost-effeithiol o ran lleihau faint o ddiwrnodau cynhyrchiant a gollir oherwydd salwch neu anabledd, yn ymwneud yn bennaf â rheoli cyflyrau cyhyrysgerbydol a phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Mae lles staff yn ffactor pwysig mewn cynhyrchiant yn y gweithle. Mae problemau iechyd meddwl cyffredin fel pryder, iselder ysbryd a straen na ellir ei reoli, yn effeithio ar un o bob chwech o weithwyr yng Nghymru bob blwyddyn. Ledled y DU, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o absenoldeb salwch ar 2.7% sydd 0.8% yn uwch na chyfartaledd y DU o 1.9%. Gall delio â materion iechyd y gellir eu hatal, ymddygiadau afiach, a lleihau'r risg o anafiadau leihau marwolaethau cynamserol a chadw llawer o bobl sy'n gweithio yn y gwaith am gyfnod hirach.


    Gall lliniaru ffactorau risg fel problemau iechyd meddwl, dewisiadau ffordd o fyw sy'n niweidio iechyd, dibyniaeth a straen wella iechyd ac arwain at arbedion sylweddol dros orwelion tymor byr a thymor hir i'r GIG, Llywodraeth Cymru a chyflogwyr yng Nghymru. Mae'n bwysig gwerthuso ymyriadau o ran canlyniadau iechyd a chanlyniadau economaidd er mwyn gwella cynhyrchiant y gweithlu yng Nghymru.
    Cyfieithiad o deitl y cyfraniadWellness in work: The economic arguments for investing in the health and wellbeing of the workforce in Wales
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Man cyhoeddiBangor
    CyhoeddwrBangor University
    Nifer y tudalennau64
    ISBN (Argraffiad)978-1-84220-173-2
    StatwsCyhoeddwyd - 17 Hyd 2019

    Allweddeiriau

    • lles
    • gwaith
    • llesiant
    • economeg
    • iechyd
    • buddsoddi
    • gweithlu
    • Cymru
    • yng Nghymru
    • dadleuon
    • economaidd

    Ôl bys

    Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Lles mewn gwaith: Y dadleuon economaidd dros fuddsoddi mewn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

    Dyfynnu hyn