Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Arferion ieithyddol athrawon uwchradd a’u hagweddau tuag at ddefnyddio dwy iaith yn y dosbarth: oes lle i drawsieithu?

Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Yng nghyd-destun pwyslais Cwricwlwm i Gymru ar hyrwyddo trawsieithu fel dull addysgeg, mae’r ymchwil hwn yn archwilio arferion ieithyddol athrawon uwchradd wrth addysgu’n ddwyieithog yng Nghymru. Trwy ddefnyddio dull ymchwil aml-haenog, mae’r thesis yn cynnig dadansoddiad o’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar lawr y dosbarth, y ffactorau sy’n dylanwadu ar eu penderfyniadau ieithyddol, a’r modd y gall hyfforddiant pwrpasol siapio eu dealltwriaeth a’u harferion.

Amlygir diffyg cysondeb yn arferion ieithyddol athrawon, yn ogystal â’r ffordd y caiff trawsieithu ei ddeall a’i weithredu yn ymarferol. Mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at gymhlethdod y berthynas rhwng polisi iaith, hyfforddiant proffesiynol, agweddau unigol ac amgylcheddau dysgu, gan ddangos sut y gall y ffactorau hyn gyfrannu at benderfyniadau ieithyddol athrawon ar lawr y dosbarth. Yn wyneb y diffyg cysondeb hwn, mae angen dulliau cliriach o gefnogi athrawon i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o drawsieithu sy’n cyd-fynd â’r hyn y mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei hyrwyddo.

Dengys yr ymchwil botensial dull hyfforddiant sy’n dilyn egwyddorion dysgu drwy brofiad fel ffordd effeithiol o feithrin dealltwriaeth athrawon o egwyddorion trawsieithu a chynyddu eu hyder wrth eu rhoi ar waith ar lawr y dosbarth. Mae hyfforddiant o’r fath yn ffordd o sicrhau bod y dulliau addysgu dwyieithog a ddefnyddir yn y dosbarth yn cyd-fynd ag amcanion a gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru.
Dyddiad Dyfarnu27 Mai 2026
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Bangor
NoddwyrESRC & Welsh Government
GoruchwyliwrEnlli Thomas (Goruchwylydd) & Thora Tenbrink (Goruchwylydd)

Allweddeiriau

  • Addysg
  • trawsieithu
  • Addysg Gychwynol Athrawon
  • Polisi iaith
  • Addysgeg
  • Addysg Ddwyieithog
  • Dwyieithrwydd
  • PhD

Dyfynnu hyn

'