Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Bilingual Semantics: Intra- and inter-sense mapping in the case of two languages

Cyfieithiad o deitl y traethawd ymchwil: Semanteg Ddwyieithog: Mapio mewn- a rhyng-synnwyr mewn achos o ddwy iaith

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Er gwaethaf camau breision yn ein dealltwriaeth o brosesu iaith ddwyieithog ar y lefel eiriadurol a chystrawennol - gan gynnwys actifadu yn L1 / L2 a chyd-actifiant ieithoedd (RHM, Kroll a Stewart, 1994; BIA - Dijkstra & Van Heuven & Grainger, 1998; BIA + , Dijkstra & Van Heuven, 2002) - ychydig iawn a wyddwn am strwythur ac actifiant semanteg mewn unigolion dwyieithog. Mae modelau cyfredol yn darparu cyfrif bras ar y gorau o sut mae'r ddwy iaith yn cymharu, ac o bosibl yn rhyngweithio, ar lefel ystyr (The Sense Model, Finkbeiner et al, 2004; The Distributed Feature Model, de Groot, 1992). Mae'n hanfodol felly, bod mwy o waith empeiraidd yn cael ei gynnal er mwyn ein galluogi I lunio darlun manylach o semanteg dwyieithog (Multilink, Dijkstra et al, 2018). Nod y gwaith empirig a gyflwynir yn y traethawd ymchwil hwn felly, yw archwilio os yw cysylltiadau cysyniadol cryfach yn L1 yn arwain at lai o ymdrech prosesu i gyflawni mapio cysyniadol drwy-synnwyr nag yn L2 (Rhan 1), ac os yw mapio rhyng-synnwyr dwyieithog yn cynnwys cyd-actifiant ar lefel ystyr (Rhan 2). Mae’n bwysig nodi ein bod yn defnyddio prosesu brawddegau drwyddi draw mewn ymgais i ddarparu cyfrif o semanteg dwyieithog y tu hwnt i'r lefel eirfaol.
    Dyddiad Dyfarnu23 Chwef 2021
    Iaith wreiddiolIeithoedd lluosog
    Sefydliad Dyfarnu
    • Bangor University
    GoruchwyliwrManon Jones (Goruchwylydd) & Awel Vaughan-Evans (Goruchwylydd)

    Allweddeiriau

    • Bilingualism
    • ERP
    • Sentence processing
    • Figurative language
    • Literal language
    • N400
    • P600
    • semantics
    • PhD

    Dyfynnu hyn

    '