Crynodeb
Pan ddechreuwyd darlledu rhaglenni radio yng Nghymru yn 1923 yr oedd yna brinder affwysol o raglenni Cyrnraeg i'w clywed. Mae'r traethawd yn olrhain y frwydr, a arweiniwyd gan Bwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru, i sicrhau mwy o raglenni Cyrnraeg trwy benodi Cymry Cymraeg ar staff y BBC ac hefyd i sefydlu gorsaf ddarlledu yng Ngogledd Cymru. Bu cyfraniad un dyn yn allweddol i'r gwaith o greu'r angen am wasanaeth Cyrnraeg. Ei enw oedd Sam Jones. Fe'i penodwyd ar staffy BBC i'r pwrpas o gynhyrchu rhaglenni Cyrnraeg. Efhefyd oedd Pennaeth cyntafy BBC yn y Gogledd. Wedi son am ei fagwraeth a'i yrfa, fe ddadansoddir cyfraniad Sam Jones i ddarlledu. Fe ddechreuodd o ddim, yn gyntafyng Nghaerdydd ac wedi hynny ym Mangor. Yn ysgogwr heb ei fath, darganfu bob! greadigol - yn ysgrifenwyr, newyddiadurwyr, dramodwyr, actorion, cerddorion ac adlonwyr o bob oed - gan lwyddo i wneud i'r orsaf ym Mangor berthyn i'r bobl yn y rhan honno o'r wlad, tra'n diddanu Cymru gyfan.Bu arhosiad Adran Adloniant BBC Llundain ym Mangor (1940-43) yn ddigwyddiad pwysig wrth sefydlu cymeriad yr orsaf. Dysgodd Sam Jones lawer ganddynt am dechneg, ac am werthoedd adloniant. Ond ei gamp oedd creu adloniant cynhenid Gyrnraeg yn hytrach na dynwared rhaglenni poblogaidd fel ITMA. Gwnaeth hynny trwy gyfuno doniau'r werin a doniau ifanc y colegau, a Choleg Bangor yn arbennig, gyda'r Nason Lawen. Ymhlith ei raglenni eraill o bwys yr oedd Ymryson y Beirdd, Wedi 'r Oedfa a'r Ymryson Areithio i golegau Cymru. Yrnhell cyn dyfodiad yr ymchwil cyson i arferion gwrando (Audience Research) fe wyddai Sam Jones yn reddfol beth fyddai at ddant ei wrandawyr, a beth oedd chwaeth y cyfuod. Fe ofynnir ai dyn ei gyfnod yn unig ydoedd; sut mae esbonio ei agwedd at deledu ; pam troi ei gefn ar y gynulleidfa Seisnig fwy niferus a pham <lewis aros am wyth mlynedd ar hugain ym Mangor. Wrth adeiladu'r gwasanaeth o'r Gogledd casglodd o'i gwmpas dim nodedig o gynhyrchwyr a pherfformwyr a pheirianwyr. Dan ei arweiniad ef o 193 5 hyd 1963 fe welir sut y datblygodd Bangor i fad yn Ganolfan Gynhyrchu na ellid ei hepgor yn hanes y BBC yng Nghymru.
| Dyddiad Dyfarnu | 1998 |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Sefydliad Dyfarnu |
|
| Goruchwyliwr | Gwyn Thomas (Goruchwylydd) |
Dyfynnu hyn
- Standard