Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Diffinio hunaniaeth greadigol ac artistig Cymry Cymraeg ym myd adloniant Cymru yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf

  • Cadi Williams

Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Pwrpas yr astudiaeth hon yw ymchwilio creadigrwydd y Cymry Cymraeg yn y byd adloniant, gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth yn benodol, dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, rhwng 1970 a 2020. Dyma faes academaidd cynhwysfawr sydd heb fawr o ymchwil blaenorol iddo a bwriad yr astudiaeth yw llenwi’r bwlch hwnnw. Defnyddiwyd dulliau cymysg at y pwrpas, sy’n cynnwys y canlynol: (1) dull meintiol ar ffurf holiadur ar gyfer Cymry Cymraeg cyffredinol, er mwyn cael trosolwg o greadigrwydd trwy lygaid y cyhoedd; (2) dull ansoddol ar ffurf cyfweliadau gydag unigolion Cymraeg blaenllaw yn y byd adloniant.

Trwy’r dulliau hyn, ceisir ateb beth yw ystyr ‘creadigrwydd’ ym marn y cyfranogwyr a darganfod eu barn ar y dadleuon di-ri sy’n ymwneud â chreadigrwydd – er enghraifft ‘proses v cynnyrch’ a ‘natur v meithriniad’. Edrychir hefyd ar sut mae’r ffenomenon hon yn cael ei meithrin trwy sefydliadau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, megis yr eisteddfod, S4C a’r capel. Astudir hefyd sut mae’r ffactorau cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg a Chymreig yn annog aml-greadigrwydd a beth sy’n unigryw am greadigrwydd y Cymry Cymraeg o’i gymharu â chreadigrwydd diwylliannau eraill.

Dengys canlyniadau’r ymchwil bod elfennau amrywiol yn perthyn i ddiffiniad y cyfranogwyr o ystyr ‘creadigrwydd’, sef, yn eu tyb hwy, gwreiddioldeb, dychymyg a mwynhad. Mae'r canlyniadau’n darparu mewnbwn defnyddiol i ddadleuon y maes. Enghraifft o hyn yw bod y cyfuniad o natur a meithriniad yn gyfrifol am greadigrwydd. Gwelir bod y sefydliadau a nodir uchod yn meithrin creadigrwydd mewn gwahanol ffyrdd, megis darparu cyfleoedd i fod yn greadigol a magu diddordeb yn y celfyddydau. O ran aml-greadigrwydd, un ffactor ymarferol yw ei bod hi’n anodd cynnal bywoliaeth ym maes cerddoriaeth yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg. Casglwyd bod cyfleodd celfyddydol amrywiol yn cael eu cynnig gan sefydliadau diwylliannol a thrwy hynny yn hybu aml-greadigrwydd. Mae creadigrwydd y Cymry Cymraeg yn cynnwys elfennau unigryw o’i gymharu â chreadigrwydd diwylliant mwyafrifol megis Eingl-Americanaidd, ond nid o’i gymharu â chreadigrwydd diwylliannau lleiafrifol eraill.

Mae’r canlyniadau yn hollbwysig i’r maes astudiaeth oherwydd nid oes ymchwil tebyg wedi’i wneud o’r blaen. Mae hefyd yn rhoi mewnwelediad i feddylfryd y cyfranogwyr, sy’n cynnwys rhai o berfformwyr mwyaf nodedig ein cenedl yn ystod y cyfnod dan sylw.
Dyddiad Dyfarnu16 Ebr 2026
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Bangor University
NoddwyrYmddiriedolaeth James Pantyfedwen
GoruchwyliwrPwyll Ap Sion (Goruchwylydd) & Guto Puw (Goruchwylydd)

Allweddeiriau

  • Creadigrwydd
  • Adloniant
  • Cerddoriaeth Cymru
  • Celfyddydau
  • Cymreictod
  • Cymru
  • Cerddoriaeth
  • Doctor of Philosophy (PhD)

Dyfynnu hyn

'