Crynodeb
Cyflwynir yma nofel ynghyd â rhagymadrodd sy' n cofnodi'r broses o'i hysgrifennu.Yn y rhan gyntaf ceir y rhagymadrodd sy'n disgrifio cefndir yr awdur, ei chymhelliad ar ddechrau'r broses a'r modd y newidiodd hynny yn ystod cyfnod ysgrifennu ei nofel gyntaf. Disgrifir y broses greadigol o lunio 'r nofel, gan ddyfynnu o ddyddiaduron yr awdur. Dangosir nad proses arunig ywysgrifennu nofel, bod dylanwad ffactorau allanol yn effeithio ar natur y cynnyrch terfynol a bod cysylltiad annatod rhwng datblygiad y nofel a chefndir a datblygiad personal yr awdur.
Yn yr atodiadau cyflwynir detholiad o weithiau creadigol cyfredol i'r nofel.
Yn yr ail ran ceir y nofel Mân Esgyrn yn ei chrynswth.
| Dyddiad Dyfarnu | Tach 2010 |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Sefydliad Dyfarnu |
|
| Goruchwyliwr | Angharad Price (Goruchwylydd) |
Dyfynnu hyn
- Standard