Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Modd i fyw
: golwg ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles yng Nghymru

  • Gwawr Ifan

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Carreg sylfaen a man cychwyn ar gyfer ymchwil ym maes Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles yng Nghymru yw'r traethawd hwn.
    Ynddo, ystyrir datblygiad hanesyddol y maes yng Nghymru, gan edrych ar y dylanwadau o gyfeiriad byd iechyd a chymdeithaseg sydd wedi bod yn gyfrwng i ddyrchafu pwysigrwydd Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles ers dechrau'r ugeinfed ganrif. Ystyrir hefyd y modd y mae'r maes wedi blodeuo ym Mhrydain yn ogystal ag yn rhyngwladol, er mwyn gosod y datblygiadau Cymreig mewn cyd-destun ehangach.
    Edrychir yn benodol ar ganu corawl amatur fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a thrwy gyfrwng holiaduron, ymchwilir i'r modd y gall gweithgaredd o'r fath ddylanwadu ar iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru. Drwy hyn, ystyrir yr angen a'r posibiliadau yng Nghymru i ddefnyddio cerddoriaeth gymunedol er mwyn hybu iechyd a lles unigolion, a'r modd y gallai'r toriadau yng nghyllid y celfyddydau ddylanwadu'n andwyol ar gyflwr iechyd a lles cymunedau Cymru ben baladr.
    Rhoddir ystyriaeth hefyd i'r sylw gwleidyddol a gafodd y maes yng Nghymru, ac yn enwedig datblygiad ac arwyddocâd cyhoeddi Y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles: Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2009. Drwy gyfrwng cyfweliadau gydag arbenigwyr ac ymarferwyr profiadol, ystyrir y ffactorau allweddol sy'n ymwneud â'r maes yng Nghymru heddiw, a'r angen i ehangu ac ymestyn y maes i'r dyfodol.
    Dyddiad Dyfarnu2012
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Sefydliad Dyfarnu
    • Prifysgol Bangor
    NoddwyrColeg Cymraeg Cenedlathol
    GoruchwyliwrSally Harper (Goruchwylydd) & Wyn Thomas (Goruchwylydd)

    Dyfynnu hyn

    '