Bwriad yr ymchwil hwn oedd edrych ar ail-greu rhyngweithio dosbarth cyfathrebol Cymraeg i Oedolion (CiO) yn rhithiol ac edrych a oedd modd gwneud hynny o gwbl. Pan gyfeirir at ryngweithio dosbarth, golygir yr holl ryngweithio sy’n digwydd mewn dosbarth arferol Wyneb yn Wyneb (WyW). Rhyngweithio gyda’r tiwtor, dysgwr gyda dysgwr, rhyngweithio gydag adnoddau a’r holl ryngweithio arferol mewn dosbarth traddodiadol. Ceisiwyd cymryd prif egwyddorion rhyngweithio dosbarth traddodiadol WyW a’u priodoli i greu awyrgylch dosbarth traddodiadol a hynny yn llwyr ar-lein neu’n rhithiol fel rhan o’r pecyn digidol. Er mwyn gwireddu hyn datblygwyd ap unigryw i geisio ail-greu rhyngweithio’r dosbarth CiO yn ddigidol.
| Dyddiad Dyfarnu | 17 Tach 2022 |
|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
|---|
| Sefydliad Dyfarnu | |
|---|
| Goruchwyliwr | Enlli Thomas (Goruchwylydd) & Sarah Cooper (Goruchwylydd) |
|---|
- PhD, Cymraeg, ail-iait, dysgu digidol, Cymraeg i Oedolion, Addysg Oedolion, Rhyngweithio dosbarth
Oes modd ail-greu rhyngweithio dosbarth cyfathrebol Cymraeg i Oedolion drwy ddulliau digidol i gefnogi cywirdeb ac ynganiad iaith dysgwyr ar lefel dechreuwyr cwrs Mynediad (A1)?
Jones, L. (Awdur). 17 Tach 2022
Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth