Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Patrymau defnydd iaith disgyblion cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3

  • Buddug Hughes

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Canolbwynt yr astudiaeth hon yw ystod a phatrymau’r defnyddo’r iaith Gymraeg gan sampl o ddisgyblion ysgolion cynradd, o gefndir iaith gartref amrywiolyn Ynys Môn, a ddilynwyd drwy’rcyfnod trosglwyddo i’r ysgol uwchradd, gan gasglu tystiolaeth ymchwil o’u profiadaua’u harferion ieithyddol. Defnyddir syniadaeth ethnograffegieithyddol iroicyfrif am y gwahaniaethau mewn arfer a’r dulliau amrywiol oddefnyddio iaith mewn gofodau cymdeithasol gwahanol.Olrheinir sut y datblygodd pryder am ddilyniant cyfrwng Cymraeg mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys Ynys Môn. Trafodir polisi ac arfer, a’r defnydd o ideolegau ieithyddol a roddodd gyfeiriad i ddatblygiad polisïau iaith awdurdodau lleol yng nghyd-destun trosglwyddo o’r cyfnod cynradd i’r cyfnod uwchradd.Gan dynnu ar ddamcaniaethau o fydoedd cynllunio a pholisiieithyddol, ieithyddiaeth,cymdeithaseg ac addysg, dangosir sut y lleolir disgyblion o fewn trefniadaeth sefydliadol ysgol, aceffaith hynny ar gyfreithloni ymddygiad ieithyddol disgyblion unigol. Canolbwyntia’r dadansoddiad ar arferion beunyddiol disgyblion a gofnodwyd ar ffurf dyddiaduron defnydd iaith, cyfweliadau ac arsylwadau mewn ystafelloedd dosbarth. Dangosirsut y caiff patrymau a defnydd iaith disgyblion eu negodi a’u cadarnhau o fewn yr ysgol drwy arferiona ystyrir yn rhai cyfreithlon,a gofodau a ystyriryn rhai cyhoeddus a phreifat. Gwelir amodau lle y ceir rhywfaint o amwysedd ieithyddol, yn hytrach na disgwyliadau ieithyddol eglur, a hynny’n creu amgylchiadau lle na theimla disgyblionreidrwydd i ddefnyddio’r Gymraeg.Y ffactorau amlycaf a ddylanwadai ar arferion defnydd iaith disgyblion y sampl oedd cefndir iaith teuluol ynghyd â natur ieithyddol a chynnwys ieithyddol y dosbarthiadauaddysgu y gosodwyd hwyynddynt. Er bod ysgolionyn llwyddo igynhyrchu disgyblion rhugl eu Cymraeg, nicheirllwyddiant cyffelybwrthdrosglwyddo eu defnydd iaith academaidd yn ddefnydd personol a chymdeithasol ehangach. I gloi’rtraethawd, ystyrir goblygiadau ar gyfer cynllunio ieithyddol yn y sector addysg
    Dyddiad Dyfarnu30 Meh 2013
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Sefydliad Dyfarnu
    • Prifysgol Bangor
    GoruchwyliwrGerwyn Wiliams (Goruchwylydd)

    Dyfynnu hyn

    '