Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Tair drama a rhagymadrodd

  • William R. Lewis

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Mae'r gwaith hwn - tair drama ynghyd a thrafadaethau dadansoddol arnynt -
    yn ymwneud ag argyfyngau unigolion wyneb yn wyneb a byd modern sy'n prysur
    newid o'u cwmpas. Yn Ymylau Byd mae dau hen gyfaill coleg yn ceisio osgoi
    gwacter a diffrwythdra'u bywydau drwy ddwyn i gof y gorffennol ond wrth
    wneud hyn agorir hen greithiau creulon. Yn Go/ff y mae'r prif gymeriad yn
    argyhoeddedig nad oes dimensiwn ysbrydol i fywyd dyn ac o'r herwydd cofleidia
    fateroliaeth ddidostur a dinistriol. Yn Ff,wd Ceinwen mae genetegydd yn
    gwrthod derbyn fad bywyd ar drugaredd mympwy genynnau sy'n caethiwo dyn;
    mae'n chwilio am weledigaeth amgenach o fywyd.
    Er i Ymylau Byd gael ei chyflwyno ar deledu, drama lwyfan ydyw, ac fel
    hynny y cyflwynir hi yma; y cyfan a wnaethpwyd yn y cynhyrchiad teledu oedd
    ychwanegu ychydig olygfeydd byrion ar ffilm i danlinellu lleoliad daearyddol y
    ddrama.
    Mae testunau terfynol Golf! a Ff,wd Ceinwen a berffarmiwyd gan Gwmni
    Theatr Gwynedd yn ffrwyth ymarferiadau gydag actorion a chyfarwyddwr. Buan
    y sylweddolwyd mai'r hyn a fyn actor gan ddramodydd yw arweiniad clir ynglyn
    a sut i ddehongli emosiynau cymeriad mewn golygfa arbennig: myn wybod beth
    sy'n cymell y geiriau a leferir. Cadwyd hyn mewn cof wrth baratoi'r
    trafadaethau dadansoddol ar y dramau. Ceisiwyd bod mor annhechnegol ag
    oedd bosibl yn y gobaith y byddent o fudd ymarferol i'r saw! a ddymunai
    berfformio'r dramau hyn yn y dyfodol. Fe! y ceisir egluro maes o law, y mae
    ieithwedd ymarferion theatraidd yn wahanol i ieithwedd beirniadaeth lenyddol
    gyfoes.
    Ni cheir, ac eithrio ar adegau prin, gyfle mewn ymarferion i wir drafad mewn
    dyfnder gefndir syniadol dramau. Ffrwyth teimlad ar ran y dramodydd yw
    Ymylau Byd yn hytrach na ffrwyth syniad haniaethol ac o'r herwydd ni theimlid
    fad angen trafadaeth ddeallusol ar yr hyn a'i symbylodd. Mae Golf! a Ffrwd
    Ceinwen yn wahanol: syniad deallusol oedd eu man cychwyn. Trafadir hyn
    mewn manylder.
    Dyddiad DyfarnuGorff 2003
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Sefydliad Dyfarnu
    • University of Wales, Bangor
    GoruchwyliwrGwyn Thomas (Goruchwylydd)

    Dyfynnu hyn

    '