Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Traws Cambria
: Ymdriniaeth thematig o Gymru mewn cyfresi dramâu teledu

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Mae'r Rhagymadrodd yn olrhain hanes y ddrama deledu Gymraeg yn :fras ac yn cyflwyno'r traethawd a bwriad yr ymchwil, gan gynnwys arolwg llenyddol o weithiau eraill sy'n trafod dramau teledu, gan osod y gwaith hwn yng nghyddestun y gweithiau eraill. Y n y bennod agoriadol trafodir arddull y deuddeg drama deledu a drafodir yn y traethawd hwn. Archwilir datblygiad y technegau a ddefnyddir mewn dramau cyfres a chyfresi dramau teledu. Y n Rhan 1 astudir y cyfresi sydd wedi eu lleoli yng N ghaerdydd. Y m Mhennod 1 archwilir y thema Cymreictod a'r math o gymuned a bortreadir yn y ddinas. Y m Mhennod 2 archwilir moeseg y cymeriadau. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar yr ymdriniaeth a hil yng nghyfresi sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Y n Rhan 2 astudir y dramau cyfres sydd wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru. Mae Pennod 1 yn archwilio'r elfennau o Gymreictod a sut yr ymdrinnir a hwy o fewn y cyfresi a'r cymunedau gogleddol a bortreadir. Ym Mhennod 2 trafodir moesoldeb y cymeriadau a dadansoddir yr hyn a ddywedir am gydwybod foesol y gymuned yn ei chyfanrwydd a sut y darlunnir y gogledd. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar y modd y cynrychiolir pobl ifanc o fewn y dramau. Y n Rhan 3 astudir y dramau teledu sydd wedi eu lleoli yn ne-orllewin Cymru. Mae Pennod 1 yn archwilio'r thema Cymreictod a'r gymuned a bortreadir yn y cyfresi. Ym Mhennod 2 dadansoddir moesoldeb y cymeriadau o fewn y cymunedau. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar yr ymdriniaeth o ferched yn y cyfresi drama. I gloi, mae 01-ymadrodd yn crynhoi'r hyn a ddaeth i'r golwg yn ystod yr ymchwil a syniadau clo'r awdur am y ddrama deledu Gymraeg. Ar ddiwedd y traethawd ceir Atodiadau, un ar gyfer pob cyfres a drafodir, yn cynnwys many lion cynhyrchu, yn ogystal a llyfryddiaeth.
    Dyddiad Dyfarnu2011
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Sefydliad Dyfarnu
    • Prifysgol Bangor
    NoddwyrArts and Humanities Research Council (AHRC)
    GoruchwyliwrGerwyn Wiliams (Goruchwylydd)

    Dyfynnu hyn

    '