Tri dramodydd cyfoes
: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled jones Williams

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

    Crynodeb

    Yn yr astudiaeth hon canolbwyntir ar ddramâu gwreiddiol i’r llwyfan a gyfansoddwyd gan dri dramodydd Cymraeg cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams. A’r tri wedi eu geni yn y 1950au, bu eu cyfraniad rhyngddynt i’r theatr Gymraeg er canol y 1970au yn un canolog ac allweddol. Aethant i’r afael yn eofn a phynciau heriol gan eu harchwilio drwy ystod o dechnegau llwyfan. Y cwestiynau ymchwil y ceisir eu hateb fydd; i ba raddau y mae’r dramodwyr yn tynnu ar brofiad personol wrth ysgrifennu a pha mor theatrig yw gweithiau’r dramodwyr. Er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau hyn, canolbwyntir ar bob dramodydd yn ei dro. Yn y bennod gyntaf, edrychir ar weithiau Meic Povey. Rhoddir cyflwyniad i’w gefndir a’i yrfa, amlinellir plot pob drama a thrafodir amrediad o themâu. Eir ymlaen i ddadansoddi ieithwedd y gweithiau dan sylw, cyn edrych ar dechnegau llwyfannu’r gweithiau yn unol â’r hyn a nodir yn y testunau, yn ogystal â chynyrchiadau ohonynt. Dilynir y drefn hon yn y ddwy bennod a ganlyn hefyd; yr ail bennod yn trafod gweithiau Siôn Eirian a’r bennod olaf yn canolbwyntio ar waith Aled Jones Williams. Sylwir, erbyn diwedd yr astudiaeth, fod y tri dramodydd yn tynnu’n sylweddol ar brofiadau personol wrth gyfansoddi ac adlewyrchir hynny mewn sawl agwedd o’r dramâu gan gynnwys plot, cymeriadau, ieithwedd, themâu a thechnegau theatrig. Fodd bynnag, ni olyga hynny y gellir cyfeirio at y gweithiau fel rhai hunangofiannol
    Dyddiad DyfarnuIon 2015
    Iaith wreiddiolCymraeg
    Sefydliad Dyfarnu
    • Prifysgol Bangor
    NoddwyrColeg Cymraeg Cenedlathol
    GoruchwyliwrGerwyn Wiliams (Goruchwylydd)

    Allweddeiriau

    • PhD
    • Ysgol y Gymraeg

    Dyfynnu hyn

    '