Crynodeb
Mae dyfodiad apiau Cymraeg neu ddwyieithog yn darparu cyfle newydd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith, wrth i’n bywydau dyddiol symud fwyfwy ar-lein. Serch hynny, mae gwybodaeth ynglŷn â’u dylanwad a’u defnydd yn brin.Nod yr astudiaeth hon, yw casglu, dadansoddi a dehongli data ynglŷn â phrofiadau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog a’u hagweddau tuag atynt. Mae’r traethawd hwn yn ystyried ecoleg y farchnad apiau Cymraeg, gan gwestiynu; pa fath o apiau Cymraeg sydd yn bodoli a pha ddefnydd a wneir ohonynt? Yn sgil hyn, mae’r astudiaeth yn canfod ystyriaethau penodol dylid gwneuthurwyr apiau masnachol a’u cyllidwyr eu hystyried wrth ddatblygu, cyhoeddi a marchnata apiau Cymraeg. Yn ehangach, dadansoddir y ffactorau sydd yn dylanwadu ar ddefnydd iaith ar-lein, megis sgiliau ieithyddol ac agweddau tuag at iaith. Yng nghasgliadau’r traethawd, lleolir safle’r iaith o fewn fframweithiau cysyniadol Kornai (2013), Gibson (2016) a Soria et al (2017), sydd yn mesur bywiogrwydd digidol iaith ac asesu ei safle fel iaith fyw fodern. Mae’r ystyriaethau hyn yn hollbwysig, wrth i Lywodraeth Cymru gydnabod fod y maes pwysig hwn yn gwbl ganolog i gyflawni eu gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cychwynnir y traethawd gan ymdrin ag ymchwil eilaidd, drwy adolygu llenyddiaeth berthnasol ym maes cynllunio ieithyddol, yr economi ddigidol a’r Gymraeg o fewn y byd digidol. Wedi hyn, cynhelir ymchwil wreiddiol yr astudiaeth, drwy ddefnyddio dull ymchwil gymysg i gasglu data ansoddol yn deillio o gyfres o 10 grŵp ffocws a data meintiol yn seiliedig ar dros 1,000 o holiaduron. Yn ogystal, cynhelir cyfrifiad apiau Cymraeg neu ddwyieithog, gan ddefnyddio data oddi ar farchnad apiau Android, Google Play.
Canfyddir yr astudiaeth hon bod y Gymraeg mewn safle cryf o ran cydnabyddiaeth a chefnogaeth a bod siaradwyr yn gwneud defnydd sylweddol o’r iaith, mewn rhai ond nid pob parth digidol. Gwelwyd bod apiau addysgiadol Cymraeg, apiau Cymraeg i blant ac apiau sy’n ymwneud a Chymru neu ddiwylliant Cymreig yn boblogaidd. Er hynny, canfyddir bod cyfle i gynyddu’r defnydd a’r dylanwad y caiff apiau Cymraeg ar arferion digidol siaradwyr yr iaith, drwy osod safonau iaith ar wasanaethau craidd. Mae hynny’n hollbwysig o ystyried y bwlch amlwg yn y ddarpariaeth o apiau ymarferol cyfrwng Cymraeg, megis gwasanaethau talu biliau ac apiau bancio. Mae’r diffyg hwn yn atal yr iaith rhag cyrraedd y lefelau uchaf o fywiogrwydd ieithyddol digidol ac yn darparu elfen o risg i’r Gymraeg o fewn y byd digidol.
| Dyddiad Dyfarnu | 12 Ebr 2010 |
|---|---|
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Sefydliad Dyfarnu |
|
| Noddwyr | KESS2 (Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth) a Cwmni Da Cyf |
| Goruchwyliwr | Cynog Prys (Goruchwylydd) & Rhian Hodges (Goruchwylydd) |
Allweddeiriau
- Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
- Ieithoedd lleiafrifol
- Cynllunio ieithyddol
- Cymraeg
- Apiau digidol
- Apiau Cymraeg
- Yr economi ddigidol
- Bywiogrwydd ieithyddol digidol
- Cydgyfeiriant
Dyfynnu hyn
- Standard