Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Ynganiad y Gymraeg gan oedolion sy’n dysgu’r iaith: llafariaid, dymuniadau a hunaniaeth

Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Mae’r ymdrechion i adfywio’r Gymraeg wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dysgu'r iaith fel oedolion. Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil sydd wedi archwilio sut mae’r siaradwyr newydd hyn yn datblygu eu hacen a’u hunaniaeth. Mae’r astudiaeth hon yn ymchwilio i’r berthynas gymhleth rhwng agweddau ac acen fel rhan o’r broses o ddysgu Cymraeg, gan ystyried goblygiadau o ran y sector Dysgu Cymraeg.
Defnyddiwyd dull cymysg o dair astudiaeth. Yn Astudiaeth 1, defnyddiwyd holiadur agored i archwilio profiadau dysgu ac agweddau at acen ymhlith dysgwyr ledled Cymru. Dangosodd y canlyniadau bod profiadau dysgu’n amrywio’n fawr, ond bod uchelgais gyffredin i siarad fel siaradwyr brodorol. Roedd cyfranogwyr o Gymru yn wreiddiol yn dangos agweddau mwy cadarnhaol tuag at eu hacen bresennol o gymharu â chyfranogwyr o gefndiroedd eraill, gan awgrymu cysylltiadau rhwng hunaniaeth Gymreig a dewisiadau o ran acen darged. Dangoswyd bod yr ymwneud rhwng y cyfranogwyr a siaradwyr traddodiadol yn gallu peri anhawster a cheir trafodaeth o’r seiniau unigol sy’n heriol i unigolion sy’n dysgu Cymraeg fel oedolion.
Yn Astudiaeth 2, cynhaliwyd dadansoddiad acwstig o lafariaid unsain y Gymraeg o ran hyd, ansawdd a llithriad gan siaradwyr newydd a thraddodiadol yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y gwahaniaethau agwedd a nodwyd yn Astudiaeth 1, ychydig iawn o wahaniaethau systematig a ganfuwyd yn y dadansoddiad yn Astudiaeth 2. Nid oedd iaith gyntaf yn effeithio’n systematig ar ansawdd llafariaid, ac nid oedd ffactorau dysgwr fel tarddiad, oed yn dechrau dysgu na lefel yn effeithio’n systematig ar ynganiad llafariaid heblaw am wahaniaethau mewn rhai agweddau o ynganu llafariaid penodol.
Yn Astudiaeth 3, defnyddiwyd arbrawf gwedd lafar i archwilio agweddau oedolion sy'n dysgu Cymraeg tuag at wahanol acenion Cymraeg. Canfuwyd bod cyfranogwyr yn gyson yn rhoi sgorau uwch i siaradwyr traddodiadol ar draws pob dimensiwn (statws, solidariaeth, dealladwyedd). Roedd grandawyr ar lefelau uwch o ddysgu yn fwy beirniadol o ddysgwyr eraill, a rhoddodd gwrandawyr o Gymru sgorau dealladwyedd is i ddysgwyr o gymharu â gwrandawyr o du hwnt i Gymru. Fodd bynnag, roedd amrywiaeth unigol sylweddol yn y canfyddiadau rhwng gwahanol wrandawyr yn rhoi cyfrif am lawer o'r amrywioldeb yn yr ymatebion.
Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at y sefyllfa gymhleth rhwng agweddau agored am acen a hunaniaeth, a chanfyddiadau am agweddau llai uniongyrchol. Roedd dysgwyr yn mynegi dymuniad i swnio fel siaradwyr brodorol ac yn gallu gwahaniaethu rhwng lleferydd siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwr. Mae hyn yn awgrymu bod canfyddiadau o acen ymhlith dysgwyr Cymraeg yn cael eu llywio’n bennaf gan ffactorau cymdeithasol.
Mae’r drafodaeth yn tynnu sylw at oblygiadau pwysig i’r sectori Dysgu Cymraeg, gan gynnwys yr angen i fynd i’r afael ag ansicrwydd dysgwyr am acen, pwysigrwydd rhoi mynediad at amrywiadau gwahanol Cymraeg, a hyfforddiant tiwtoriaid. Mae’r astudiaeth hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o gymunedau siaradwyr newydd yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol.
Dyddiad Dyfarnu25 Maw 2026
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Bangor University
GoruchwyliwrSarah Cooper (Goruchwylydd) & Peredur Webb-Davies (Goruchwylydd)

Allweddeiriau

  • Dysgu Cymraeg
  • Ynganiad
  • Acen
  • Ymagweddau ieithyddol
  • Siaradwyr newydd

Dyfynnu hyn

'