Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Yr Economi, Mudo ac Ieithoedd Lleiafrifol: Tri Phapur o Safbwynt Cymreig

Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

Crynodeb

Mae cryfhau’r economi mewn ardaloedd lle ceir dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru wrth iddynt ymdrechu tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag, tenau yw’r sylfaen wybodaeth i gefnogi rhai o’i amcanion strategol. Nod y thesis hwn yw ymateb i'r bylchau mewn ymchwil sy’n rhwystro ymyraethau effeithiol sydd â’r nod o rymuso cymunedau Cymraeg.

Mae'r ddoethuriaeth hon yn dilyn dull "tri phapur”. Cyflwynir tri phapur sy’n sefyll ar ei ben ei hun o ran cynnwys a dadansoddiad, ond maent wedi'u cysylltu gan thema gyffredin. Gellid dadlau bod y fformat hwn yn hwyluso cyfraniad y gwaith at y maes academaidd cyn cwblhau'r ddoethuriaeth. Hyd yma mae fersiwn o’r papur cyntaf wedi ei gyhoeddi yn Journal of Multilingual and Multicultural Development (gweler Atodiad D), papur dau yn Current Issues in Language Planning (gweler Atodiad Dd), a bwriedir cyflwyno papur tri i gyfnodolyn arall maes o law. Ceir grynodeb o’r papurau unigol sy’n ffurfio’r thesis hwn isod.

Mae papur cyntaf y thesis hwn yn gosod sylfaen i’r gwaith trwy ddarparu adolygiad systematig o’r hyn sy’n wybyddus am ddylanwad newidynnau economaidd ar y Gymraeg. Mewn ymateb i’r feirniadaeth bod y berthynas hon ond yn cael ei chrybwyll mewn termau cyffredinol, craffir ar a chategoreiddir y dystiolaeth o fewn fframwaith economi > iaith Royles (2019) er mwyn cyflwyno dealltwriaeth lawer iawn mwy manwl a phenodol o ddylanwad gweithgareddau, polisïau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg. At hyn, amlyga canfyddiadau’r adolygiad nifer o fylchau mewn gwybodaeth, gan gynnwys yn ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gyrru penderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg.

O ganlyniad i ganfyddiadau’r papur cyntaf, ymchwilir ail bapur y thesis i’r ffactorau ysgogol ym mhenderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg er mwyn creu teipoleg. Amlygir y deipoleg amrywiaeth ym mlaenoriaethau grwpiau penodol wrth ddod i benderfyniad i aros, gadael neu ddychwelyd i gadarnleoedd yr iaith, gan adeiladu ar waith blaengar Cooke a Petersen (2019) o gyd-destun ynysoedd gwledig. Dadansoddir defnydd galluedd grwpiau sy’n blaenoriaethu ffactorau ieithyddol neu economaidd gan ddod i’r casgliad y dylid talu sylw i ddefnydd alluedd siaradwyr ieithoedd lleiafrifol o fewn cyd-destun mudo gan fod eu penderfyniadau, boed yn gysylltiedig á’r iaith ai pheidio, yn debygol o ddylanwadu ar yr iaith.

Yn y trydydd papur, troi’r sylw at grwpiau’r deipoleg sy’n blaenoriaethu ffactorau cymdeithasol ac affeithiol (affective) gan gyfuno damcaniaeth galluedd Emirbayer a Mische (1998) gyda chysyniad Teti (2018) o restanza (cyflwr neu weithred sy’n dathlu dewrder a gwytnwch y sawl sy’n penderfynu aros yn eu cymunedau) mewn modd newydd a chyffrous. Awgrymir sut y gellid defnyddio’r ddealltwriaeth unigryw ac arloesol hwn wrth siapio polisïau sydd â’r nod o gynnal siaradwyr Cymraeg o fewn eu bröydd.

Mae’r thesis hwn yn cyfrannu’n ymarferol ac yn ddamcaniaethol i’r maes. Trwy ddefnyddio canfyddiadau’r adolygiad systematig i ddilysu fframwaith economi>iaith Royles (2019) awgrymir y gall ymarferwyr polisi ddefnyddio’r eglurder mae’r fframwaith yn ei ddarparu gyda hyder wrth gynllunio ymyraethau economaidd er budd ieithoedd lleiafrifol. At hyn, mae’r deipoleg yn cynnig allbwn ymarferol i gynllunwyr ieithyddol gellir ei ddefnyddio i siapio polisi mewn modd mwy targedig wrth ymateb i anghenion grwpiau penodol. Yn ogystal, gwthir paramedrau rhai o gysyniadau damcaniaethol mwy diweddar yn ymwneud â galluedd siaradwyr ieithoedd lleiafrifol ar lefel micro o fewn cyd-destun mudo gan wneud cyfraniad i’r llenyddiaeth ddamcaniaethol.
Dyddiad Dyfarnu17 Meh 2025
Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad Dyfarnu
  • Prifysgol Bangor
NoddwyrColeg Cymraeg Cenedlathol
GoruchwyliwrCynog Prys (Goruchwylydd), Siwan Mitchelmore (Goruchwylydd) & Rhian Hodges (Goruchwylydd)

Dyfynnu hyn

'