TY - BOOK
T1 - Adroddiad ar ddarpariaeth addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn Ysgolion yng Nghymru
AU - Huskinson, Lucy
A2 - Evans-Jones, Gareth
A2 - Andrews, Joshua
PY - 2024/4/2
Y1 - 2024/4/2
N2 - Prif genhadaeth Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yw darparu arbenigedd academaidd a chefnogaeth addysgol am ddim yn y meysydd athroniaeth, crefydd a moeseg i athrawon o lefelau TGAU hyd at gyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, sesiynau adolygu, a digwyddiadau DPP. Ers mis Hydref 2022, mae’r Ganolfan wedi derbyn llif cyson o adroddiadau ac adborth negyddol gan athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru ynghylch y modd y mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), wedi cael ei roi ar waith.
Gwelwyd yng Nghymru’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu a ddaeth i fodolaeth ym mis Medi 2022, yn yn ailenwi pwnc ‘Addysg Grefyddol’ (AG) i ‘Crefydd, Gwerthoedd, a Moeseg’ (CGM), gyda’r amod ei fod yn bwnc gorfodol i bob myfyriwr o 3 i 16 oed. Cafodd y pwnc newydd hwn ei integreiddio wedyn i Faes Addysgu a Dysgu y Dyniaethau.
Er mwyn adnabod yr agweddau a oedd yn peri pryder i’r athrawon a gysylltodd, a cheisio canfod atebion posibl, ymgymrodd Cyfarwyddwyr y Ganolfan, Dr Joshua Andrews, Dr Gareth Evans-Jones, a’r Athro Lucy Huskinson, a chynorthwy-ydd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, â phrosiect ymchwil ansoddol a meintiol drwy ddosbarthu holiaduron ymysg athrawon CGM ledled Cymru. Roedd yr ymatebion yn gwbl anhysbys ac yn ddienw, a derbyniwyd 58 ymateb o ysgolion ar draws 17 gwahanol sir a bwrdeistref Gymreig, ac o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ysgolion anghenion addysgol arbennig, a’r rhai sy’n arbenigo mewn dysgu gydol oes. Ymatebodd 34 drwy gyfrwng y Saesneg a 24 drwy gyfrwng y Gymraeg.
AB - Prif genhadaeth Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yw darparu arbenigedd academaidd a chefnogaeth addysgol am ddim yn y meysydd athroniaeth, crefydd a moeseg i athrawon o lefelau TGAU hyd at gyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, sesiynau adolygu, a digwyddiadau DPP. Ers mis Hydref 2022, mae’r Ganolfan wedi derbyn llif cyson o adroddiadau ac adborth negyddol gan athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru ynghylch y modd y mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), wedi cael ei roi ar waith.
Gwelwyd yng Nghymru’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu a ddaeth i fodolaeth ym mis Medi 2022, yn yn ailenwi pwnc ‘Addysg Grefyddol’ (AG) i ‘Crefydd, Gwerthoedd, a Moeseg’ (CGM), gyda’r amod ei fod yn bwnc gorfodol i bob myfyriwr o 3 i 16 oed. Cafodd y pwnc newydd hwn ei integreiddio wedyn i Faes Addysgu a Dysgu y Dyniaethau.
Er mwyn adnabod yr agweddau a oedd yn peri pryder i’r athrawon a gysylltodd, a cheisio canfod atebion posibl, ymgymrodd Cyfarwyddwyr y Ganolfan, Dr Joshua Andrews, Dr Gareth Evans-Jones, a’r Athro Lucy Huskinson, a chynorthwy-ydd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, â phrosiect ymchwil ansoddol a meintiol drwy ddosbarthu holiaduron ymysg athrawon CGM ledled Cymru. Roedd yr ymatebion yn gwbl anhysbys ac yn ddienw, a derbyniwyd 58 ymateb o ysgolion ar draws 17 gwahanol sir a bwrdeistref Gymreig, ac o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, ysgolion anghenion addysgol arbennig, a’r rhai sy’n arbenigo mewn dysgu gydol oes. Ymatebodd 34 drwy gyfrwng y Saesneg a 24 drwy gyfrwng y Gymraeg.
KW - Addysg grefyddol
KW - Athroniaeth
KW - Moeseg
KW - Addysgu
UR - https://www.bangor.ac.uk/sites/default/files/2024-09/adroddiad-CGM.pdf
M3 - Adoddiad Arall
BT - Adroddiad ar ddarpariaeth addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn Ysgolion yng Nghymru
ER -