@misc{6da44d12788d4f909d334623234c9403,
title = "Chwarae Teg? Defnyddio mathemateg i ennill g{\^e}m Monopoly",
author = "Richard Davies",
note = "Wyddoch chi bod modd defnyddio mathemateg er mwyn penderfynu pa eiddo i'w brynu mewn g{\^e}m o Monopoly? Dyna'n union a wneir yn ethygl wyddonol fuddugol Eisteddfod Genedlaethol M{\^o}n 2017. Enillodd Dr Andrew Davies y wobr am erthygl ar y testun 'Chwarae teg? Defnyddio mathemateg i ennill g{\^e}m Monopoly'. {"}Er mwyn dathlu dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i F{\^o}n, mae'r erthygl hon yn egluro a ydyw argraffiad Ynys M{\^o}n Monopoly yn g{\^e}m deg ai peidio,{"} meddai Dr Davies. {"}Rwyf hefyd yn cyflwyno hefyd strategaethau ar sut i ennill y g{\^e}m, yn seiliedig ar fathemateg.{"} {"}Mae'r erthygl yn mesur tebygolrwydd glanio ar bob sgw{\^a}r ac yn ystyried a yw'r rheolau'n deg neu beidio. I gloi, rwy'n rhoi cyngor i chwaraewyr ac yn esbonio pam y dylaent brynu Llu Awyr Brenhinol y Fali ond osgoi Ynys Lawd!{"} Magwyd Dr Richard Andrew Davies yn Llangefni, Ynys M{\^o}n. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i astudio Cemeg ym Mhrifysgol Bangor ac enillodd wobrau academaidd lu. Cafodd ysgoloriaeth gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg i astudio ei ddoethuriaeth ym Mangor. Ar {\^o}l chwe blynedd fel ymchwilydd yn Llundain a{\textquoteright}r Siroedd Cartref, dychwelodd i F{\^o}n. Yn 2009, fe'i penodwyd yn Gymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Cemeg, Cyfrifiadureg a Mathemateg. Cynyddodd yn sylweddol y nifer o fodiwlau dwyieithog sydd ar gael, yn ogystal {\^a}'r nifer o fyfyrwyr Cymraeg sy'n eu hastudio. Yn sgil ei waith diflino, mae Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i{\textquoteright}w cael ar gyfer astudio Cemeg ym Mangor ers sawl blynedd. Mae Dr Davies yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth trwy ei waith allymestyn: er enghraifft, mae'n cynnal nifer o gystadlaethau a gweithgareddau dwyieithog i ysgolion, yn ogystal {\^a} gweithgareddau a sioeau cemegol yn Eisteddfodau{\textquoteright}r Urdd a{\textquoteright}r Genedlaethol. Yn sgil ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol M{\^o}n o dan ffugenw {"}Gwlad y Medra{"}, derbyniodd y fraint o gael bod yn aelod o Banel Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol.",
year = "2018",
language = "Cymraeg",
volume = "Ffrwd",
pages = "1",
journal = "Gwerddon",
issn = "1741-4261",
publisher = "Coleg Cymraeg Cenedlaethol",
}