Y Fro Dywyll

    Research output: Book/ReportBook

    Abstract

    Nofel hanesyddol gyffrous am Rhisiart Dafydd, un o'r Crynwyr cyntaf i deithio i America i geisio cynnig arweiniad ysbrydol. Mae r nofel wedi ei seilio yn yr ail ganrif ar bymtheg ac mae r prif gymeriad yn Biwritan o Gymro sydd wedi mynd yn filwr profiadol yn ystod y Rhyfeloedd Cartref. Stori antur ydyw n bennaf. Mae r myfyrio yn digwydd o dan wyneb prif stori r nofel, sef antur yr ymchwil am gymuned goll mewn gwlad wyllt , stori wedi i phlethu â darnau sy n mynd â ni n ôl i gyfnod y Rhyfeloedd er mwyn egluro seicoleg a chyflwr emosiynol y prif gymeriad. Mae r prif gymeriad hwnnw yn derbyn comisiwn i hwylio draw i America a chwilio am gymuned o Biwritaniaid Cymreig a oedd wedi mynd yno i sefydlu Caersalem Newydd , cymuned ddelfrydol wedi ei rheoli ar hyd llinellau crefyddol llym. Does neb wedi clywed gan y gymuned ers rhai blynyddoedd. Mae r cynnwys yn gyffrous a hawdd ei ddarllen, ond hefyd yn cynnig rhywbeth i ddarllenwyr sy n chwilio am gynnwys mwy deallusol.
    Original languageEnglish
    PublisherY Lolfa
    ISBN (Print)978-1784610098
    Publication statusPublished - 21 Nov 2014

    Fingerprint

    Dive into the research topics of 'Y Fro Dywyll'. Together they form a unique fingerprint.

    Cite this