Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern

  • Branwen Jarvis

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Ceir ymdriniaeth yn y penodau agoriadol a'r agweddau meddwl hynny a
    nodweddai ddyneiddiaeth Gymreig. Sylwir yn arbennig ar nodweddion
    ysgolheictod iaith a banes, a rhoddir sylw hefyd i'r newyddbethau a ddug
    Wiliam Llŷn i draddodiad y canu caeth, ac i'r syniadau dyneiddiol ynghylch
    natur barddoniaeth a gynigiodd Siôn Dafydd Rhys i'r beirdd.
    Mae'r penodau ar y ddeunawfed ganrif yn cyfeirio at ddylanwad y dyneiddwyr ar Lewis Morris a Goronwy Owen. Gwelir yn y bennod ar Lewis Morris ei fod yn enghraifft wiw o'r math o ysgolhaig amatur, eang ei ddiddordebau, a hanfodol wyddonol ei agwedd a nodweddai'r ddeunawfed ganrif. Yn y ddwy ymdriniaeth â Goronwy Owen pwysleisir ei gysylltiadau llenyddol, yn Gymreig, yn Glasurol, ac yn Seisnig.
    Trafodir agweddau ar delynegion ac emynau traddodiad sy'n pontio'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed yn y drydedd adran. Syniadau
    Ceiriog am natur Cymreictod a Phrydeindod, yng nghyd-destun ei gyfnod, yw
    pwnc yr wythfed bennod; yn yr un modd, sonnir am berthynas Elfed â'i
    amgylchiadau cymdeithasol a gwleidyddol. Mae'r penodau ar Elfed, fodd
    bynnag, yn canolbwyntio ar drafod diwinyddiaeth ei emynau a'r modd y
    dylanwadodd ei syniadau am yr emyn fel offeryn defnyddiol a chynulleidfaol
    ar ei waith.
    Yn y bedwaredd adran, ceir penodau yn ymwneud â gwaith tri o lenorion
    mawr canol yr ugeinfed ganrif, sef Saunders Lewis, Kate Roberts a Gwenallt.
    Un o themâu'r bennod ar Kate Roberts yw ei chysylltiad â'r ddau lenor arall; y
    mae cysylltiad thematig amlwg hefyd rhwng y bennod hon a'r bennod sy'n
    dadansoddi'r agweddau meddwl patriarchaidd yng ngwaith Saunders Lewis. I
    gloi, ceir dwy bennod yn ymdrin â'r canu caeth cyfoes; yng ngwaith Gerallt
    Lloyd Owen ac Idris Reynolds, gwelir parhad elfennau traddodiadol ac
    ymwybod dwfn â'r perygl o golli ffordd arbennig o feddwl ac o fyw.
    Date of Award1997
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • University of Wales, Bangor

    Cite this

    '