Archaeoleg ddisgyrsiol mewn pedair haen: Datganiadau cenedlaethol-drefedigaethol yn y wasg Gymreig a’r wasg Fasgaidd yn y 1890au

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Digwyddiadau, pobl a llenyddiaeth wleidyddol yng Nghymru a Gwlad y Basg rhwng 1876 a 1918 yw cefnlen hanesyddol ehangaf yr astudiaeth hon, a datganiadau cenedlaetholgar yn y wasg yn ystod y 1890au sy’n dwyn ei sylw yn benodol. Yn ôl hanesyddiaeth draddodiadol y ddwy wlad hyn, dyma’r cyfnod y ganwyd cenedlaetholdeb Cymreig a Basgaidd modern ar ffurf y mudiad Cymru Fydd yng Nghymru a’r Blaid Genedlaetholgar Basgaidd (EAJ-PNV) yng Ngwlad y Basg. Dyma’r cyfnod hefyd y gwelwyd ffrwydrad o ddadleuon, trafodaethau a phropaganda yn y wasg ar y cwestiwn cenedlaethol, ynghyd â nifer mawr o gyhoeddiadau newydd ac iddynt y pwrpas penodol o hyrwyddo ac amddiffyn achosion cenedlaethol yn gyffredinol. Dyma’r cyfnod, felly, y ganwyd ac y blodeuodd gyntaf ddisgwrs cenedlaethol Cymreig a disgwrs cenedlaethol Basgaidd yr oes fodern.
    Gan ystyried syniadau Michel Foucault ac ôl-strwythurwyr eraill sy’n dal mai trwy ddisgwrs y ffurfir ymwybyddiaeth wleidyddol a thrwy ddisgwrs y gweithredir dyheadau actorion gwleidyddol, mae’r astudiaeth hon yn dadansoddi a chymharu paradeim disgyrsiol y ddau fudiad cenedlaethol ifanc. Trefnir y dadansoddiad yn bedair haen sy’n cynrychioli camau adeiladol yn rhesymeg a strategaeth rethregol y ddau ddisgwrs, o’u datganiadau hiliol ac ethnolegol yng ‘ngwaelod y ffos’ hyd at ddatganiadau gwleidyddol ac economaidd yn nes at yr wyneb. Dadleuir bod yr haenau unigol a’r paradeim cyfan yn gweithio fel cyfundrefn unedig, a bod datganiadau ar wyneb y disgwrs megis ‘hunanlywodraeth i Gymru!’ yn dibynnu ar ddatganiadau sylfaenol megis ‘ni’r Cymry’ ar waelod y ffos am eu grym semantig ac awdurdod rhethregol.
    Dadleuir hefyd, sut bynnag, nad yw’r paradeim yn gadarn ac yn gyson o ran cryfder ei ddadleuon cenedlaetholgar: mae lleisiau amrywiol yn mabwysiadu ac wedyn yn gwrthddweud rhai o’i ddaliadau pwysicaf, a’r paradeim yn methu yn aml iawn caniatáu casgliadau cenedlaetholgar rhesymegol. Dadleuir, felly, mai ynghyd â dylanwad disgyrsiau ‘cenedlaethol-wrthimperialaidd’ gwledydd bychain eraill y 19g, megis Iwerddon, Catalwnia, Hwngari, a’r Eidal, dylanwadwyd yn gryf ar ddisgyrsiau cenedlaethol Cymreig a Basgaidd gan brofiadau trefedigaethol hanesyddol y ddwy wlad a chan ddisgyrsiau ‘cenedlaethol-imperialaidd’ Prydain a Sbaen yn y 19g hwyr. Dadleuir, felly, mai disgyrsiau ‘cenedlaethol-drefedigaethol’ a welir yn newyddiaduraeth genedlaetholgar y 1890au yng Nghymru a Gwlad y Basg yn y pen draw.
    Dyma gymhariaeth o ddau ddisgwrs cenedlaethol-drefedigaethol hanesyddol: mae’n gymhariaeth a gyflawnir o fewn fframweithiau a ddygir o theori gymharol, theori ôl-strwythurol a theori ôl-drefedigaethol. Caniatâ inni edrych ar ddisgyrsiau cenedlaethol-drefedigaethol Cymreig a Basgaidd y 1890au mewn ffordd hollol newydd: dylai ganiatáu inni ddadansoddi disgwrs cenedlaethol Cymreig a Basgaidd yr 21g mewn ffordd hollol newydd hefyd.
    Date of Award18 Dec 2019
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Bangor University
    SupervisorAled Llion Jones (Supervisor)

    Keywords

    • discourse
    • Welsh nationalism
    • Basque nationalism
    • postcolonialism
    • political journalism
    • the nineteenth century
    • the 1890s

    Cite this

    '