Bu teulu Mostyn yn gefnogol i’r traddodiad barddol yn eu pum llys ar draws gogledd Cymru am ganrifoedd, a chlodforir eu nawdd yng nghanu beirdd y cyfnod. Daeth penllanw’r nawdd barddol yn yr 16g, yn arbennig drwy’r cysylltiad agos rhwng y teulu ac Eisteddfodau Caerwys 1523 a 1567/8. Erbyn cyfnod y Rhyfel Cartref, fodd bynnag, roedd y canu wedi dirwyn i ben ar aelwydydd y teulu. Mae’r rhagymadrodd yn astudiaeth o hanes teulu Mostyn o’r pum llys hyd at 1847, a cheir dyfyniadau o rai o’r cerddi a ganwyd ar eu haelwydydd dros y canrifoedd. Ond ar ddiddordeb Tomas Mostyn (m.1692) mewn casgliadau llenyddol a nawdd barddol yn chwarter olaf yr 17g. y mae prif sylw’r traethawd hwn a chyflwynir golygiad o’r cerddi a ganwyd iddo ef a’i deulu fel tystiolaeth o’i waith yn atgyfodi’r traddodiad barddol ar aelwyd y teulu unwaith eto. Rhoddir sylw hefyd yn y rhagymadrodd i gefndir ei wraig, Bridget Savage, a dylanwad y ffydd Babyddol ar dynged ei theulu. Ceir gwybodaeth hefyd am gysylltiad y teulu â’r drefn farddol hyd at y 19g. i gloi’r rhagymadrodd.
| Date of Award | 28 Aug 2014 |
|---|
| Original language | Welsh |
|---|
| Awarding Institution | |
|---|
| Supervisor | Peredur Lynch (Supervisor) |
|---|
Arolwg o'r canu i deulu Mostyn, ynghyd â golygiad o'r cerddi o'r cyfnod c.1675-1692
Jones, E. (Author). 28 Aug 2014
Student thesis: Doctor of Philosophy