Abstract
Un o Phylipiaid Ardudwy, sef y teulu o feirdd a ganai o ganol yr unfed ganrif arbymtheg hyd yn hwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg oedd Gruffydd Phylip. Dyddia
ei gerddi ef o tua 1608 hyd yn agos i'w farwolaeth yn 1667. Fel ei dad, Si6n,
a'i ewythr, Rhisiart, 'roedd yn fardd toreithiog, ac yn canu'n bennaf ar fesur y
cywydd.
Adwaenir ef fel yr olaf o'r hen feirdd, sef yr olaf i ennill ei fywoliaeth drwy arfer
ei ddawn o dy bonedd i dy bonedd. Ef oedd bardd teulu Corsygedol, a chanai
hefyd i amryw o deuluoedd Ardudwy a Sir Gaernarfon. Mentrai ymhellach yn
achlysurol.
Wrth drafod gwaith y Phylipiaid yn nhridegau'r ugeinfed ganrif, cwynai William
Davies nad oedd testun llawn o waith y Phylipiaid ar gael. Ceisir yma lenwi un
gornel o'r maes hwnnw ac ychwanegu nodiadau ar gefndir y cartrefi a'r
teuluoedd y canai iddynt. Atodir geirfa, gan geisio sylwi ar eiriau sy'n ddieithr
neu'n wahanol eu hystyr bellach. Rhaid cydnabod er hynny fod dylanwad y
Beibl Cymraeg wedi sefydlogi'r iaith yn sylweddol o gyfnod Gruffydd Phylip
hyd heddiw.
| Date of Award | 2008 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
Cite this
- Standard