Abstract
Yn y traethawd hwn trafodir bywyd a gwaith llenyddol y diweddar David Tecwyn Lloyd, 1914 - 1992.Yn y rhannau cyntaf rhoddir sylw i'w fywyd yn ei wahanol gyfnodau gan gychwyn gydag arolwg o'i deulu a rhywfaint o hanes y teulu hwnnw. Rhoddir sylw hefyd i'w gyfnod yn yr ysgolion, yng Nglanrafon ac yn y Bala, a rhai o'r dylanwadau a fu arno yn ystod y cyfnodau pwysig hyn. Rhoddodd ef gryn dipyn o sylw i rai o'i athrawon yn yr Ysgol Ramadeg yn y Bala, Ysgol Tytandomen, ac i un prifathro yn yr ysgol gynradd yng Nglanrafon. Yna, dilynir ei yrfa trwy Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac ymlaen i 'w swyddi dros y blynyddoedd, eto gan geisio dangos rhai o'r dylanwadau a fu arno. Yn perthyn yn agos i'r adran hon y mae'r bennod yn delio a'r mudiad Gwerin, y bu Tecwyn Lloyd yn amlwg iawn yn ei sefydlu yn ystod ei gyfnod ym Mangor.
Yn dilyn hyn, ceisir rhoi sylw i'w waith. Ym 1960 derbyniodd radd MA yn dilyn
ysgrifennu traethawd ar waith y llenorion Eingl-Gymreig a roddodd sylw i Gymru a'r Cymry dros y canrifoedd. Ei farn oedd mai mympwyol iawn ac unllygeidiog oedd trafodaeth y llenorion hyn, ymron y cyfan ohonynt yn Saeson. Rhoddent yr argraff mai gwlad anwaraidd oedd Cymru gyda phoblogaeth anwaraidd yn trigo ynddi.
Y prosiect hwyaf i Tecwyn Lloyd, y mae'n debygol, oedd ei astudiaeth o Saunders Lewis. Dechreuodd ar y gwaith yn ystod y 1960au a'r penllanw oedd cyhoeddi ei gyfrol ar Saunders Lewis ym 1988. Am resymau a gaiff sylw yn y drafodaeth, ni chafodd y gyfrol groeso gan deulu Saunders Lewis.
Caiff gwaith DTLl fel beirniad llenyddol sylw hefyd, gan geisio dadansoddi'r
dylanwadau a effeithiai ar ei feimiadaeth. Y mae'r un peth yn wir am ei waith
llenyddol fel portreadwr; eto rhoddir sylw i'r dylanwadau a welir ar ei ddewis o
wrthrych a'i ymateb i 'r gwrthrych hwnnw. Un maes y gwnaeth gyfraniad mawr
iddo oedd fel golygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin. Rhoddir sylw i'r
cylchgrawn ac i'r modd y datblygodd o dan adain Tecwyn Lloyd.
Efallai mai un agwedd annisgwyl o'i waith yw ei storiau ysbryd. Cyhoeddodd y
rhain dan y ffugenw E.H. Francis Thomas. Cynhwysir astudiaeth o'r rhain yma,
gan eu cymharu â gwaith ei arwr yn y llên-ddull hwn, Montague Rhodes James.
Fel atodiad i'r traethawd, rhoddir golwg ar ran o'i ach, yn ddarluniadol: cynhwysir ei waith barddonol; y mae'r rhain yn rhychwantu cyfnod maith, o'r
cyfieithiad cyntaf a gyhoeddwyd ym 1935, i'r rhai diweddaraf. Hyd y gwn ni
chyhoeddwyd nifer helaeth o'r rhain ond y maent yn bodoli ar ffurf llawysgrif yn
unig. Hefyd, rhoddir rhestr gyflawn o'i weithiau a gyhoeddwyd yn gyfrolau a
hefyd ddetholiad helaeth iawn o'i erthyglau ac ysgrifau na chynhwyswyd y
mwyafrif ohonynt mewn cyfrol.
| Date of Award | 2007 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Gwyn Thomas (Supervisor) |