Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Bywyd a gwaith Sam Jones, a hanes dechrau a datblygu darlledu yn y Gogledd
: BBC Bangor 1935-63

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Pan ddechreuwyd darlledu rhaglenni radio yng Nghymru yn 1923 yr oedd yna brinder affwysol o raglenni Cymraeg i'w clywed. Mae'r traethawd yn olrhain y frwydr, a arweiniwyd gan Bwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru, i sicrhau mwy o raglenni Cymraeg trwy benodi Cymry Cymraeg ar staff y BBC ac hefyd i sefydlu gorsaf ddarlledu yng Ngogledd Cymru.
    Bu cyfraniad un dyn yn allweddol i'r gwaith o greu'r angen am wasanaeth Cymraeg. Ei enw oedd Sam Jones. Fe'i penodwyd ar staff y BBC i'r pwrpas o gynhyrchu rhaglenni Cymraeg. Ef hefyd oedd Pennaeth cyntaf y BBC yn y Gogledd.
    Wedi sôn am ei fagwraeth a'i yrfa, fe ddadansoddir cyfraniad Sam Jones i ddarlledu. Fe ddechreuodd o ddim, yn gyntaf yng Nghaerdydd ac wedi hynny ym Mangor. Yn ysgogwr heb ei fath, darganfu bobl greadigol - yn ysgrifenwyr, newyddiadurwyr, dramodwyr, actorion, cerddorion ac adlonwyr o bob oed - gan lwyddo i wneud i'r orsaf ym Mangor berthyn i'r bobl yn y rhan honno o'r wlad, tra'n diddanu Cymru gyfan.
    Bu arhosiad Adran Adloniant BBC Llundain ym Mangor (1940-43) yn ddigwyddiad
    pwysig wrth sefydlu cymeriad yr orsaf. Dysgodd Sam Jones lawer ganddynt am
    dechneg, ac am werthoedd adloniant. Ond ei gamp oedd creu adloniant cynhenid Gymraeg yn hytrach na dynwared rhaglenni poblogaidd fel ITMA . Gwnaeth hynny trwy gyfuno doniau'r werin â doniau ifanc y colegau, a Choleg Bangor yn arbennig, gyda'r Nason Lawen. Ymhlith ei raglenni eraill o bwys yr oedd Ymryson y Beirdd, Wedi 'r Oedfa a'r Ymryson Areithio i golegau Cymru.
    Ymhell cyn dyfodiad yr ymchwil cyson i arferion gwrando (Audience Research) fe
    wyddai Sam Jones yn reddfol beth fyddai at ddant ei wrandawyr, a beth oedd chwaeth y cyfnod. Fe ofynnir ai dyn ei gyfnod yn unig ydoedd; sut mae esbonio ei agwedd at deledu; pam troi ei gefn ar y gynulleidfa Seisnig fwy niferus a pham wyth mlynedd ar hugain ym Mangor.
    Wrth adeiladu'r gwasanaeth o'r Gogledd casglodd o'i gwmpas dîm nodedig o
    gynhyrchwyr a pherfformwyr a pheirianwyr. Dan ei arweiniad ef o 1935 hyd 1963 fe welir sut y datblygodd Bangor i fod yn Ganolfan Gynhyrchu na ellid ei hepgor yn hanes y BBC yng Nghymru.
    Date of Award1998
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • University of Wales, Bangor
    SupervisorGwyn Thomas (Supervisor)

    Cite this

    '