Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Croesffordd dewis
: dyheadau a thueddiadau disgyblion ôl-16 cyfrwng Cymraeg wrth ddewis addysg uwch

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Mae'r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar brosesau dewis disgyblion ôl-16 wrth
    ddewis prifysgol, gradd a chyfrwng iaith eu hastudiaethau.
    Lleolir y dadansoddiad o fewn cefndir theoretig Pierre Bourdieu, ble cymhwysir ei
    dri chysyniad o 'gyfalaf diwylliannol, habitus a maes' i'r cyd-destun addysg uwch.
    Ystyrir astudiaethau empeiraidd eraill ynglŷn â dewis prifysgol er mwyn gweld pa ffactorau dylanwadol ehangach y dylid eu harchwilio, gan edrych yn arbennig ar yr astudiaethau sy'n trafod y cyd-destun Cymreig. Ymhellach, ystyrir polisi addysg uwch yng Nghymru er mwyn diffinio'r maes, ynghyd â dadansoddiad o ystadegau Cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, er mwyn canfod pwy sy'n fwyaf tebygol o ddilyn llwybr addysg uwch Gymraeg.
    Ymgymerir â gwaith ymchwil gwreiddiol i astudio prosesau dewis disgyblion ôl-16 mewn ysgolion uwchradd Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru, ynghyd â Cholegau Addysg Bellach. Gwneir hyn drwy ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i ddechrau, ac yna techneg dadansoddiad atchweliad ar brif gwestiynau'r ymchwil. Mae hyn yn caniatáu archwilio'n fanwl brosesau dylanwad eu cyfalaf diwylliannol a habitus ar eu penderfyniadau wrth ddewis
    prifysgolion.
    Date of AwardNov 2010
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Bangor University
    SupervisorDelyth Morris (Supervisor)

    Cite this

    '