Abstract
Bydd y drafodaeth hon yn ystyried ymdrechion yr awdur i gyfleu pwnc problemauiechyd meddwl drwy gyfrwng pedwar dam o waith llenyddol - dwy ddrama, nofel
anorffenedig a nofel orffenedig - a ysgrifennwyd dros gyfnod o oddeutu degawd.
Mae'r gweithiau hyn yn seiliedig ar elfennau o brofiadau'r awdur o'r cyflwr ers iddo fod yn chwech ar hugain oed.
Yn rhan gyntaf y traethawd, diffinnir celfyddyd yn gyffredinol a nodir bod
creu celfyddyd yn weithred hanfodol i'r ddynoliaeth, yn unol a safle anghenion
esthetig yn Hierarchaeth Abraham Maslow.
Mae ail ran y traethawd yn llawer mwy swmpus. Yn y rhan hon, cynigir
enghreifftiau o weithiau'r awdur yn ystod ei arddegau a'i ugeiniau cynnar ac ystyrir ei ddiddordeb canolog mewn drama fel cyfrwng llenyddol.
Mae'r awdur yn tanlinellu agwedd negyddol y papurau newydd tuag at salwch
meddwl, ac yn dyfynnu cerdd gan glaf a brofodd rai o agweddau mwyaf cyffredin sgitsoffrenia. Diffinnir sgitsoffrenia a mynegir rhai o'r elfennau amlwg ynddo. Yn ogystal, ystyrir rhai meddyginiaethau a ddefnyddir i'w drin.
Trafodir y berthynas rhwng creadigedd a'r cyflwr, ynghyd a'r elfennau hynny
o Hierarchaeth Maslow yr effeithir amynt gan sgitsoffrenia. Y styrir agweddau ar
salwch Tomos, prif gymeriad y nofel, sy'n gorgyffwrdd ag elfennau o'r Hierarchaeth a grybwyllwyd.
Mae'r pedwar dam o waith llenyddol yn cael eu trin yn eu tro. Pwysleisir yn
arbennig rol is-destun mewn drama a'r problemau a gyfyd wrth eu defnyddio mewn dramau sy'n ymdrin a phroblemau iechyd meddwl. Trafodir rol seibiau a thawelwch yn nwy o ddramau Harold Pinter, ac ystyrir chwedleua ('confabulation') y cymeriad sy'n dioddef o Korsakoffs Psychosis yn y ddrama Hanfodion o waith yr awdur presennol. Gwelir hefyd fod elfennau tebyg yn sawl un o'r pedwar gwaith.
Mae'r awdur yn ystyried y ddau gyfrwng llenyddol a ddewisodd i gyfleu'r
cyflwr o salwch meddyliol, ac yn dod i ganlyniad ynglyn a'r cyfrwng mwyaf
effeithiol i wneud hynny. Mae'n egluro sut y datblygodd ei ddiddordeb mewn drama yn ystod ei arddegau, ac yn cynnig diffiniad o'r cyfrwng. Mae hefyd yn cynnig diffiniadau o nofel a phlot, ac yn mynd ati i yrnhelaethu ar sut y lluniwyd strwythur y nofel orffenedig. Yn y cyswllt hwn, sonnir am y 'Cylchdro Arwrol' a'r 'Siwmai Fytholegol' . Mae'n edrych ar syniadau ynghylch 'Ymchwil' a 'Thaith' a
'Dychwelyd' yng nghyd-destun siwmai Tomos ac ar strwythur llenyddol yn
gyffredinol.
Yna, mae'n ystyried sut y lluniwyd y cymeriadau. Diffinnir archdeip, yn
arbennig yr archdeip mesianaidd, yn unol a diffiniad Victoria Lynn Schmidt ohono. Rhoddir enghreifftiau o ymarferion a ddefnyddiwyd wrth lunio'r cymeriadau. Ystyrir cymeriadau Tomos, Mererid a'r Plentyn yng nghorff y traethawd a'r ddau gymeriad arall yn yr Atodiad.
Edrychir ar 'Siwrnai'r Arwr' trwy gyfrwng y 'Siwrnai Fytholegol' ac
amlinellir elfennau o'r siwrnai honno sydd yn siwrnai fewnol a chorfforol.
Ar derfyn y traethawd, gan dynnu o'r profiad o ysgrifennu'r dramau a'r nofel, deuir i gasgliadau am berthynas ffurf lenyddol, creadigedd a salwch meddwl, gan ddod i'r dyfarniad body nofel, yn hytrach na'r ddrama, yn ffurf fwy cymwys ar gyfer ymdrin a sgitsoffrenia.
| Date of Award | 2012 |
|---|---|
| Original language | English |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Angharad Price (Supervisor) |
Cite this
- Standard