Abstract
Testun y traethawd hwn yw taith straeon tylwyth teg o 'r canon Ewropeaidd i 'r Gymraeg, gan ganolbwyntio ar waith Charles Perrault, Antoine Galland, y Brodyr Grimm a Hans Christian Andersen. Mae hwn yn faes ymchwil cwbl newydd, ac yn bwnc trawsddiwylliannol sy'n cwmpasu agweddau cymdeithasol, diwylliannol, testunol a theoretig. Mae'r traethawd yn olrhain sut y cafodd corff canonaidd o straeon tylwyth teg ei greu yn y Ile cyntaf, yn sefydlu ac yn diffinio corff o addasiadau Cymraeg o rai o'r straeon hynny, gydag ymdriniaeth destunol ohonynt, ac yn gosod gweithgarwch addaswyr, golygyddion cylchgronau, cyfrolau a chyfresi, cyhoeddwyr ac adolygwyr mewn cyd-destun hanesyddol. Trwy hyn mae'r astudiaeth yn amcanu i ateb pedwar cwestiwn. Y cyntaf yw pa fersiynau sy'n bodoli yn Gymraeg, felly cynhwysir atodiad yn darparu manylion am y corpws yr wyf wedi ei gasglu o 'r cyfnod rhwng 1899 a 1991 i ddiben y traethawd hwn. Yr ail yw pwy oedd y cyfranogwyr yn y broses o fabwysiadu'r straeon o'r canon, a rhoddir sylw i gyfraniad addaswyr, golygyddion a chyhoeddwyr unigol. Y trydydd yw pam yr aethpwyd ati i ddarparu fersiynauCymraeg, ac ymdrinnir a gwerth y straeon tylwyth teg, yr angen am lenyddiaeth fyd yn Gymraeg, yr angen am ddeunydd addysgiadol, yr angen i byrwyddo'r Gymraeg, a 'r angen i lenwi bwlch yn y bolysystem lenyddol Gymraeg (theori Even-Zohar). Y pedwerydd yw pa strategaethau cyfieithu a ddefnyddir gan yr addaswyr yn eu testunau, a rhoddir sylw i gartrefoli ac estronoli nodweddion (theori Venuti), ac enwau personol cymeriadau (theori Hermans). Mae'r traethawd yn gosod y gweithgarwch a ddisgrifir yng nghyd-destun maes
llenyddiaeth plant, lien gwerin, banes cyhoeddi a datblygiad addysg Gymraeg.
Date of Award | 2012 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|