Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), 1827-1895.

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Yr oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llawn o ddynion a merched a roddodd yn hael o'u hegni i gefnogi diwylliant Cymru. Mae'r ffaith fod gan gynifer ohonynt enwau barddol yn tystio i'r ymwneud mawr â llenydda ac eisteddfota. Dyma hefyd ganrif fawr enwadaeth yng Nghymru, gyda phenderfyniad y Methodistiaid i ffurfio cyfundeb ar wahan i'r eglwys sefydledig yn 1811 yn nodi dechrau cyfnod cyffrous o ddadlau ar egwyddorion y ffydd rhwng Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr, yn enwedig yn y llu o gyfnodolion a gyhoeddwyd ar hyd y ganrif.
    Tra canolbwyntiodd rhai o ffigyrau amlwg y cyfnod ar un maes, gan ddod yn enwog am gampau a llwyddiannau yn y maes hwnnw, roedd eraill yn ceisio eu gorau i wneud yr hyn a allent mewn sawl maes. Un felly oedd Ellis Roberts, 'Elis Wyn o Wyrfai' i roi ei enw barddol. Fe' i ganed yn 1827 a bu farw ar ôl bywyd llawn gweithgarwch yn 68mlwydd oed yn 1895. Bu' n felinydd, yn chwarelwr, yn athro ac yna' n offeiriad, gan dderbyn canoniaeth fygedol gan yr esgob Llanelwy ar ddiwedd ei yrfa. Ond nid yr esgyniad arbennig hwnnw o ddechreuadau digon di-nod oedd nodwedd fwyaf arwyddocaol ei fywyd. Fy mwriad wrth ddechrau ar yr astudiaeth hon oedd adrodd am yr argraff a wnaeth fel emynydd, golygydd,
    llenor, bardd, beirniad eisteddfodol, ac fel offeiriad Cymraeg mewn cyfnod pan wawdiwyd yr eglwys sefydledig am ei diffyg Cymreictod. Rwy' n gobeithio y bydd yr hyn a ganlyn yn goffa teilwng i wr bychan o ran corffolaeth a wnaeth gymaint dros ei genedl, ei gyd-ddyn a thros Grist.
    Date of Award2006
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • University of Wales, Bangor
    SupervisorDensil Morgan (Supervisor)

    Cite this

    '