Abstract
Gwyddwn oll bwysigrwydd darllen ar gyfer datblygiad llythrennedd a llwyddiant mewn bywyd. Yn anffodus, mae darllen er pleser, sef darllen hamddenol, o dan fwy o fygythiad nac erioed, gyda’r lefelau mwynhad isaf erioed wedi eu hadrodd yn ddiweddar ar draws y DU. Yng nghyd-destun Cymru, mae’r Llywodraeth yn awyddus i greu miliwn o siaradwyr newydd erbyn 2050 gan ehangu addysg Gymraeg yn y broses. Mae’r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn chwarae rôl ddiwylliannol bwysig mewn ymdrechion i gynnal yr iaith, gan fod llyfrau yn darparu cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth ac yn borth i ddiwylliant cyfoethog Cymru.Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru, fe addysgir plant o aelwydydd Cymraeg a di-Gymraeg ochr yn ochr yn yr un ystafell ddosbarth. Ond nid yw pawb yn cychwyn o’r un lle. I’r plant hynny sy’n dod at y Gymraeg fel ail iaith, gall amlygiad i’r iaith tu hwnt i’r dosbarth fod yn gyfyngedig. Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos bod cysylltiadau’n bodoli rhwng ieithoedd a bod modd gwneud defnydd o un iaith i gefnogi un arall. Erbyn hyn, arddelir gweithio ‘ar draws’ ieithoedd yng Nghwricwlwm Newydd i Gymru.
Rhannwyd y prosiect yn dair astudiaeth:
Astudiaeth 1 a 2: Holwyd rhieni, athrawon a phlant 9-11 oed er mwyn darganfod eu barn am arferion darllen a llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Roedd tystiolaeth i awgrymu nad yw disgyblion L2 Cymraeg yn ymwneud â llyfrau Cymraeg a’u bod yn ffafrio darllen yn Saesneg pan roddir y dewis iddynt. Dangosodd canlyniadau’r holiaduron fod disgyblion yn gynyddol droi at lyfrau Saesneg o’u gwirfodd, a bod canfyddiadau negyddol o lyfrau Cymraeg yn parhau. Ymhellach, roedd ymdeimlad cryf fod yr iaith yn heriol mewn llyfrau Cymraeg a bod ehangder y dewis yn gyfyngedig ar y cyfan.
Astudiaeth 3: Gan ddefnyddio ieithoedd yn hyblyg a gweithio’n drawsieithyddol, datblygwyd ymyrraeth ddarllen gan addasu testun gyda rhestrau geirfa er mwyn darparu cymorth gyda’r eirfa – sy’n peri anhawster i nifer. Pwrpas hyn oedd cynyddu dealltwriaeth o’r testun, mwynhad a chymhelliant i ddarllen yn Gymraeg, yn enwedig ond nid yn unig, ymysg plant L2 Cymraeg. Dangoswyd fod rhestrau geirfa, boed hynny’n rhai ymylol neu o fewn y testun, yn helpu disgyblion i adnabod ystyr mwy o eiriau. Roedd hyn, yn ei dro, yn cynyddu dealltwriaeth o’r testun cyflawn a’r mwynhad o ddarllen yn y Gymraeg.
Mae argymhellion y gwaith hwn yn berthnasol i ddarparwyr adnoddau, cyhoeddwyr ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r farchnad lyfrau Cymraeg. Dylid darparu cymorth ieithyddol ychwanegol i siaradwyr newydd i’w helpu i ddeall y testun, ac mae rhestrau geirfa L1 yn un ffordd o wneud hyn. At hynny, dylid archwilio cyfleoedd pellach i ddefnyddio technoleg er mwyn creu adnoddau hyblyg a rhyngweithiol sy’n rhoi cefnogaeth i ddisgyblion wrth ddarllen yn y Gymraeg.
| Date of Award | 2025 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Sponsors | Bangor University & Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
| Supervisor | Enlli Thomas (Supervisor) & Manon Jones (Supervisor) |