Abstract
Diben y traethawd ymchwil hwn yw cyflwyno astudiaeth o gerddi gan Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, prydyddes sy'n dilyn Gwerful Mechain yn yr olyniaeth o feirdd benywaidd Cymraeg, sef testun fy nhraethawd ymchwil M.A. Mae' n debyg mai cyfran yn unig o'i holl gynnyrch yw'r wyth cerdd sydd wedi goroesi, ond mae'r corff bychan hwn o farddoniaeth yn fodd i ni ymgydnabod â phersona barddol unigryw.Ceir saith pennod fel a ganlyn. Y n gyntaf fe drafodir aelodau teulu Alis ferch Gruffudd, yn yr ymgais i ganfod a fu unrhyw berthynas yn ddylanwad ar ei gyrfa farddol hi. Yn ogystal, fe drafodir agweddau perthnasol ar ddiwylliant y Cyfnod Modem Cynnar gan ystyried dylanwad y Dadeni Dysg ar gymdeithas Gymreig y cyfnod. Canolbwyntir ar dair o gerddi Alis sy'n trafod serch a phriodas o safbwyntiau tad a merch yn yr ail bennod, gan amlygu'r gwahaniaeth barn sydd ganddynt ynghylch cariad. Yn y drydedd bennod fe edrychir ar y delweddau a'r symbolau a gyfyd yn 'Tair ewig o sir Ddinbych i'w tri chariad,' cyn mynd ati yn y bennod ganlynol i edrych ar gynnwys y gerdd hon mewn manylder. Dadansoddiad o ddwy gerdd sy'n bychanu unigolion o ddosbarth cymdeithasol is a geir yn y bumed bennod, sef y cywydd cymod rhwng Dafydd Llwyd Lwdwn a Grigor y Moch ac englyn i'r melinydd. Yna fe ddilynir hyn gyda phennod fer ar englyn a luniodd Alis i gwyno am ŵr sydd wedi troi ei sylw at ferch arall.
Dylid oedi yn y fan hon ac egluro cysyniadau sy'n ganolog i'r traethawd a'r modd yr aethpwyd ati i roi teitlau i'r cerddi. Wrth astudio'r farddoniaeth a dadogir ar Alis, rhaid sicrhau yn gyntaf na ddrysir rhwng awdur y gerdd a phersona'r gerdd. Defnyddir y gair 'persona' neu 'gymeriad' yn yr astudiaeth hon i ddangos mai creadigaeth gelfyddydol yw'r llais yr ydym yn ei glywed yn llefaru mewn cerdd; dylid gwahaniaethu rhwng y persona hwn a'r awdures ei hun. Parthed y teitlau a dyfyniadau o'r cerddi, dyhd nodi mai golygiad Cathryn Charnell-White1 a ddefnyddir yn y traetbawd hwn.
1Beirdd Ceridwen (Llandybie, 2005), tt. 75-84. Gw. tt. 43-4 am ddull y golygu.
| Date of Award | 2010 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Jerry Hunter (Supervisor) |
Cite this
- Standard