Hanes Geiriaduraeth yng Nghymru o 1547 hyd 1914 : gyda sylw arbennig i ddylanwad John Walters a William Owen Pughe ar eiriadurwyr 1805-1850

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Astudiaeth yw hon o hanes a datblygiad geiriaduron printiedig o 1547, sef blwyddyn cyhoeddi A Dictionary in Englyshe and Welshe gan William Salesbury, hyd ddechrau'r ugeinfed ganrif pan gyhoeddwyd geiriaduron William Spurrell dan olygyddiaeth J. Bodvan Anwyl. Astudir dros ddeg ar hugain o gyfrolau i gyd, cyfrolau a luniwyd i ddiwallu gwahanol anghenion y genedl dros gyfnod o dair canrif a hanner ac sydd, or herwydd, yn amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys. Er mwyn gosod terfynau pendant i'r astudiaeth, fe'i cyfyngwyd i eiriaduron Cymraeg-Lladin/Lladin-Cymraeg, Cymraeg-Saesneg, SaesnegCymraeg a Chymraeg-Cymraeg. Nid ymdrinnir ä geiriaduron Beiblaidd, geiriaduron termau, geiriaduron tafodieithol na'r geirfäu Saesneg-Cymraeg a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer ymwelwyr i Gymru. Trafodir hefyd rai geiriaduron nas cyhoeddwyd am fod iddynt arwyddocäd yng nghyd-destun gweithgarwch geiriadurol diweddarach. Ystyrir y modd y defnyddiwyd hwy fel ffynhonnell gan eiriadurwyr eraill ac i ba raddau y cawsant eu golygu a'u hymgorffori yn eu gweithiau. Gan fod John Walters a William Owen Pughe yn hawlio Ile mor amlwg yn natblygiad geiriaduraeth ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, rhoddir sylw arbennig i dylanwad y ddau ar weithgarwch geiriadurol rhwng 1805 a 1850. Ceisir dangos hefyd sut y newidiodd agwedd pobl tuag syniadau ieithyddol a geirfa Pughe yn raddol erbyn diwedd y cyfnod clan syiw.
    Date of AwardJan 2002
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Bangor University

    Keywords

    • Linguistics
    • History
    • Literature
    • Mass media
    • Performing arts

    Cite this

    '