Abstract
Mae'r gyd-berthynas rhwng modemeiddio a hunaniaeth yn un sydd wedi'i harchwilio ar y platfform Prydeinig ar gyfer y blynyddoedd wedi 1945, ond mae ymdriniaethau o'r fath yn brin yn hanes Cymru. Trwy ganolbwyntio ar fodemeiddio cymdeithasol a diwylliannol rhwng 1950 a 1962, dadleua'r traethawd hwn fod angen ehangu cwmpas y ddimadaeth o genedligrwydd Cymreig y tu hwnt i'r sbectrwm gwleidyddol. 0 wneud hynny, dadlennir yr amryfal haenau i hunaniaeth Gymreig, a gwelir y gallai gwerthoedd 'Prydeinig' a 'Chymreig' gydfodoli'n weddol ddi-ffwdan. Cydran gref o'r ddadl yw y gellir canfod cenedligrwydd Cymreig mewn mannau 'annisgwyl':ffactor a amlygwyd yn sgil y sylw penodol a roddir i ogledd ddwyrain Cymru (siroedd Dinbych a Fflint) yn y gwaith.
Mae tueddiad mytholegol i bortreadu'r 1950au fel degawd llwm i Gymru, gyda llawer o'r dehongliad hwnnw wedi ei seilio ar foddi Cwm Tryweryn. Yn gysylltiedig, caiff y 1960au ei gyfleu fel y cyfnod pan 'achubwyd' y Gymraeg gan brotestiadau iaith a chenedlaetholdeb wleidyddol. Fodd bynnag, dengys y traethawd hwn fod yna ymdrechion anwleidyddol, gan elit cenedlaethol ac ar lawr gwlad, i atal tranc y Gymraeg yn ystod y pumdegau. Crisialwyd hynny yn yr ymrafael i'w modemeiddio: ei gwneud yn iaith berthnasol i oes y teledu a'r byd niwclear. Ymhellach, cyfrannodd meysydd megis trydan, pasiantau harddwch a dathliadau cyhoeddus fel Gwyl Prydain at wead Cymreictod y degawd. Fel cyfanwaith, dengys hyn fod yna nifer o nodweddion 'positif i Gymru'r pumdegau a'r chwedegau cynnar, ac y gellir eu canfod mewn meysydd sydd fel arfer yn cael eu hepgor o ddiffiniadau o genedligrwydd Cymreig.
| Date of Award | 2008 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Duncan Tanner (Supervisor) |