Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

'Melusder mwyn ar danau per odlau'
: Mair Richards 'Darowen' (1787-1877) a thraddodiad Gwerin Maldwyn

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Astudiaeth o Mair Richards (1787-1877) - a aned yn Llanymawddwy ac a fagwyd
    yn Narowen, sir Drefaldwyn - a'i gweithgarwch ym myd cerddoriaeth frodorol Cymru geir yn y traethawd hwn. Gosodir Mair Richards a'i theulu yn eu cyd-destun hanesyddol ehangach o safbwynt cerddorol, diwylliannol, hynafiaethol a chrefyddol, ac ymdrinnir â'r dylanwadau a fu arnynt yn ogystal â'r cysylltiadau a fu rhyngddynt hwy a'u cyfoeswyr. Wrth ymdrin â'r deunydd cerddorol a gofnodwyd gan Mair Richards, rhoddir y sylw pennaf i'r deunydd sy'n perthyn i'r traddodiad gwerin Cymreig, sef y carolau plygain a'r caneuon llafar gwlad, a gofnodwyd ganddi rhwng 1800 a'i marwolaeth ym 1877. Ni cheir astudiaeth o'i chasgliad o alawon gwerin Saesneg na'i hemyn-donau a'i hanthemau, sy'n gasgliadau cynhwysfawr ynddynt eu hunain1, gan nad astudiaeth o'i chyfraniad i gerddoriaeth werin Seisnig na cherddoriaeth gysegredig Cymru yw'r bwriad. Daw'r deunydd cerddorol, sy'n sail i'r traethawd hwn, o lawysgrifau teulu Richards 'Darowen', sy'n rhan o gasgliadau llawysgrifol Cwrtmawr geir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth). Rhennir yr astudiaeth hon yn dair adran - y gyntaf yn benodau sy'n trafod cyd-destun cymdeithasol, crefyddol a cherddorol Mair a'i theulu; yr ail adran yn cynnwys wyth atodiad o drawsgrifiadau o lawysgrifau'r teulu; a'r drydedd adran (sef Atodiad 9), yn olygiad o ddetholiad o'i charolau a'i halawon gwerin Cymreig, ynghyd â rhagarweiniad, nodiadau golygyddol, tablau a mynegeion.
    Rhennir y traethawd ymchwil (sef yr adran gyntaf) yn bum pennod - y gyntaf yn
    trafod Mair a'i theulu, sef ei rhieni, ei phum brawd a'i dwy chwaer, gan fanylu ar effaith y Diwygiad Methodistaidd arnynt, gweithgarwch hynafiaethol y teulu a'u cyfraniad at gyfnod llewyrchus yr offeiriaid llengar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ffocws yr ail bennod yw statws y ferch yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dynnu sylw at gyfnod Mair yn Llundain a'i chymharu â merched a gwragedd eraill Cymru'r cyfnod, gan gynnwys ei chwiorydd, Jane ac Elizabeth; ymdrinia'r drydedd a'r bedwaredd bennod â chefndir y carolau plygain ar y naill law a'r alawon gwerin ar y llall; ac ym mhennod pump crisielir cyfraniad Mair Richards i faes cerddoriaeth draddodiadol Cymru ei dydd. Ymdrechwyd i
    arddangos yn y penodau y berthynas annatod geir rhwng yr alawon mewn perthynas â sefyllfa gymdeithasol y cyfnod.

    1 Ceir cymysgedd o c.80 o emyn-donau ac anthemau a gofnodwyd gan Mair Richards yn llawysgrif NLW AH1/31, c.112 yn rhagor yn llawysgrif NLW Cwrtmawr Music MS 21, a cheir corff helaeth o alawon gwerin Saesneg wedi'u cofnodi blith draphlith ganddi ymysg yr alawon Cymraeg yn llawysgrifau NLW AH1/35 ac NLW Cwrtmawr Music MS 30.
    Date of Award2012
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Prifysgol Bangor
    SponsorsKnowledge Economy Skills Scholarship (KESS), Society for Education, Music and Psychology Research (SEMPRE), Glamorgan County History Trust & Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor
    SupervisorWyn Thomas (Supervisor)

    Cite this

    '